Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ers pryd mae gan bobl yr hawl i ofyn pryd dwi am gael plant?
Mae Si芒n Harries wedi cael llond bol. Mae'r sgriptwraig gomedi yn rowlio ei llygaid yn rheolaidd pan mae hi'n cael ei chwestiynu am ei chynlluniau o ran cael plant.
Mae Si芒n, sydd wedi sgwennu i gyfresi comedi fel Man Down ar Channel 4 a The News Quiz ar Radio 4, yn fenyw briod, ddi-blant yn ei 30au.
Yma, mae hi yn ymateb yn ddi-flewyn-ar-dafod i'r cwestiynwyr busneslyd hynny...
Annwyl pobl mewn barbeciws,
Wnewch chi stopio gofyn pryd byddai'n ca'l plant pl卯s? Does 'na neb yn gofyn hyn i ng诺r i - yr unig gwestiwn ma' fe'n ca'l yw os gymrith e sosej arall.
Nag yw e'n anghwrtais i ofyn rhywbeth mor personol o flaen pawb? Wedi'r cyfan, bydden i byth yn gofyn i chi "Sut ma'r menopause?" oherwydd bydden i byth ishe gweld chi'n anghyffwrddus. Na Wncwl Jac yn tagu ar ei breaded prawn.
Dwi'n deall bod e'n hollol dderbyniol trafod cyrff menywod ifanc yn gyhoeddus; pa mor dew 'y ni; pa mor hen 'y ni'n edrych; sut dyle menywod beichiog bihafio; a dyle ni ga'l yr hawl i erthylu? Mae gan bawb barn dros ein cyrff ni a sut dyle ni defnyddio nhw.
Bydde ddim ots 'da fi os mai "Wyt ti ishe plant?" oedd y cwestiwn. Bydde hynna'n awgrymu wir diddordeb yn fy newisiadau bywyd, fel tase chi'n gofyn os oedd chwant 'da fi fyw yn Ffrainc er enghraifft, neu ca'l tat诺 mewn lle amheus. Y broblem yw bod 'na ddisgwyl mod i'n bendant ishe plant - yr unig gwestiwn yw pryd? Ma' 'na feirniadaeth yn bodoli sy'n awgrymu bod unrhyw gynllun arall yn annaturiol, yn anghywir rhywsut.
Dwi'n deall bod e ddim yn dod o le cas, ei fod yn gred sy'n deillio o genhedlaeth cynt pryd o'dd 'na ddim cymaint o ddewis i fenywod. Nath Mam a Mamgu a'i mam hi cynt, tyfu lan yn gadel lle i blant. Priodon nhw er mwyn ca'l plant, gadel gwaith i roi genedigaeth iddyn nhw, creu cartrefi er mwyn magu nhw - gadawon nhw fwlch. Ac yn draddodiadol, os na fydde'r bwlch yn cael ei lenwi bydde'n gadel twll mawr ym mywyd merch. Ond ges i ddim fy nysgu i adel bwlch. A ma' mywyd i'n orlawn, yn hollol gyfan fel 'ma fe.
Ma' 'na rhai sy'n galw hwn yn hunanol, eraill sy'n mynnu gwybod pwy bydd yn edrych ar fy 么l i pryd fyddai'n hen. Yn bersonol, dwi'n credu mai disgwyl i'ch plant edrych ar 么l chi yw'r peth mwya' hunanol dwi byth 'di clywed. Beth os ma' nhw'n methu gwneud? Beth os nagyn nhw ishe? I fod yn blwmp ac yn blaen, beth os ma'ch plentyn yn troi mas i fod yn bach o bric?
Ydy e'n annaturiol i fenyw wadu'i natur mamol? Yn bendant ma' modd bod yn famol heb fod yn fam - dwi'n gofalu ar 么l fy nheulu a'm ffrindiau, yn galw mewn ar gymdogion, yn fentor i ferched ifanc ac yn ceisio maethu'n cymuned.
Ma'n dewisiadau fel menywod yn aml yn cael eu rhoi mewn cystadleuaeth 芒'u gilydd; ma' Mamau yn gwisgo 'Mum jeans' ac yn siarad gobldig诺c tra bod menywod Rhydd-blant yn cadw cathod a heb chwerthin ers 1996. Ma' byw heb blant yn unig tra bod bod yn fam yr amser hapusa' ym mywyd menyw.
Nid yn unig yw'r tybion ma'n hollol nonsens ma' nhw hefyd yn beryglus - sawl Mam newydd bydd yn gwrthod help am post-natal depression yn sgil y disgwyliad 'ma? Ma'n amser dathlu dewisiadau'n gilydd a siarad amdanyn nhw'n agored.
Felly pl卯s, stopiwch ofyn pryd dwi'n mynd i ga'l plant a gofynnwch os dwi ishe nhw, fel petai fy mod, fel fy ng诺r i, yn rhydd i wneud be' dwi ishe 'da'n nghorff. A gwrandewch ar yr ateb, heb feirniadaeth na rhagfarn.
O ie, a phasiwch y sosejes.