Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnig buddsoddiad 'sylweddol' i forlyn Bae Abertawe
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig "buddsoddiad ychwanegol sylweddol" i gynllun morlyn Bae Abertawe, mewn ymdrech i annog Llywodraeth y DU i roi eu s锚l bendith i'r prosiect.
Yn 么l y llywodraeth ym Mae Caerdydd, mae Carwyn Jones wedi gyrru llythyr i Theresa May yn cynnig "talu rhywfaint o gostau cyfalaf" y cynllun.
Daw hyn bron i flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad annibynnol gan gyn-weinidog ynni wnaeth argymell bwrw ymlaen 芒'r prosiect 拢1.3bn.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "edrych yn ofalus" ar sut mae newid "cymysgedd ynni" Prydain, ond bod angen "rhoi gwerth i gwsmeriaid".
Dywedodd Carwyn Jones ddydd Mercher y byddai codi "pwerdy morlyn llanw cyntaf y byd" yn "creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel" ac yn "cyflenwi cyfran sylweddol o anghenion ynni'r DU".
"Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn llusgo'i thraed am dros flwyddyn," meddai.
"Mae hyn wedi arwain at rwystredigaeth cynyddol ymysg cymuned fusnes Cymru a pherygl cynyddol y bydd diffyg penderfyniad yn troi i fod yn benderfyniad i beidio 芒 bwrw ymlaen.
"Nawr mae'n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi'r gorau i'r oedi, a symud ymlaen i gytuno ar bris er mwyn i ni wireddu'r prosiect arloesol hwn."
'Gwerth i gwsmeriaid'
Ym mis Rhagfyr, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod y cynllun yn "ddibynnol ar y ffigyrau" ac y byddai'n rhaid iddo "ddangos gwerth am arian" cyn cael ei gymeradwyo.
"Rydym eisiau sicrhau bod gan y DU gymysgedd amrywiol, diogel a fforddiadwy o ynni, ond mae'n rhaid iddo roi gwerth i gwsmeriaid," meddai Llywodraeth y DU mewn datganiad ddydd Mercher.
"Dyna pam rydym ni'n edrych yn ofalus ar y potensial o ddefnyddio adnoddau naturiol y DU i wneud ein cymysgedd ynni yn lanach, mwy cynaliadwy, a rhoi gwerth am arian i holl gwsmeriaid a threthdalwyr y DU."
Mae'r cwmni y tu 么l i'r fenter yn honni y byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan i 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.