成人快手

Diffyg gweithredu i atal digartrefedd gan gynghorau

  • Cyhoeddwyd
Dyn digartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim digon yn cael ei wneud i atal digartrefedd yn y lle cyntaf, meddai'r adroddiad

Dyw cynghorau lleol ddim yn gwneud digon i fynd i'r afael 芒'r hyn sy'n achosi digartrefedd, yn 么l adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r corff yn dweud bod yr help sydd ar gael i bobl ddigartref yn amrywio o ardal i ardal, a bod awdurdodau lleol yn dal i "ganolbwyntio ar reoli pobl mewn argyfwng yn hytrach na'u hatal rhag mynd i argyfwng yn y lle cyntaf".

Mae'n dweud hefyd bod mwy o bobl mewn llety dros dro a chynghorau a'u partneriaid yn atal llai o bobl rhag mynd yn ddigartref.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "achosion gwraidd digartrefedd... yn aml yn gymhleth a heriol i'w hatal a'u datrys".

Deddf Tai newydd

Yn 么l yr adroddiad, mae cynnydd cadarnhaol wedi bod ar y newid mewn pwyslais ers i gynghorau gael dyletswyddau newydd wedi Deddf Tai 2014.

Cafodd y ddeddf ei llunio gan Lywodraeth Cymru ac mae'r ddogfen yn dweud bod gwelliant mewn sawl maes o bwys.

Mae'r ddeddf yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chyrff eraill ganolbwyntio'n benodol ar atal digartrefedd ac fe gafodd arian ei roi gan y llywodraeth i'w helpu gyda'u cyfrifoldebau newydd.

Ond mae'r gwaith o atal person rhag mynd yn ddigartref wedi bod yn "heriol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod angen i gynghorau feddwl yn yr hir dymor wrth daclo digartrefedd

Un o'r rhesymau am hynny, yn 么l y ddogfen, yw bod yr hyn sy'n achosi digartrefedd y tu hwnt i reolaeth cynghorau a Llywodraeth Cymru - er enghraifft, penderfyniadau Llywodraeth San Steffan yngl欧n 芒 budd-daliadau lles.

Ffactor arall yw bod dim digon o waith paratoi wedi ei wneud gan rhai cynghorau i geisio atal digartrefedd ac i leihau'r galw am wasanaethau.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: "Mae fy adroddiad heddiw yn amlygu'r ffaith bod Awdurdodau Lleol yn parhau i ganolbwyntio ar reoli pobl mewn argyfwng yn hytrach na'u hatal rhag mynd i argyfwng yn y lle cyntaf, a hynny er gwaethaf bwriadau cadarnhaol Lywodraeth Cymru i atal digartrefedd.

"Er mwyn atal digartrefedd mewn gwirionedd, mae angen i gyrff cyhoeddus feddu ar safbwynt hirdymor, a gweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i'r afael yn wirioneddol 芒'r materion sy'n achosi digartrefedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod achos digartrefedd yn aml yn gymhleth

Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Gofyn i awdurdodau lleol weithio mewn ffyrdd gwahanol gyda'u partneriaid;

  • Bod y cynghorau yn dweud yr hyn maen nhw'n disgwyl gan y cyrff maen nhw'n cydweithio 芒 nhw ;

  • Bod staff gyda'r sgiliau perthnasol i wneud eu gwaith yn sgil eu dyletswyddau newydd;

  • Gwneud yn si诺r bod gwasanaethau yn delio gydag unigolion yn gynharach yn arbennig o fewn y meysydd addysg, gofal cymdeithasol a rhai gwasanaethau eraill.

Cynghorau'n 'helpu mwy'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau eisoes yn cydweithio 芒 chymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i atal digartrefedd a lleihau effaith newidiadau i'r system lles.

"Rydym yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sy'n dangos bod awdurdodau lleol wedi ymrwymo i sicrhau fod teuluoedd yn osgoi poen digartrefedd ble bynnag sy'n bosib, mewn cyfnod ble mae niferoedd yn cynyddu'n sylweddol a chyllidebau cynghorau yn cael eu torri'n drwm," meddai.

"Mae'r adroddiad yn iawn i gydnabod fod achosion gwraidd digartrefedd, mewn llawer o achosion, yn aml yn gymhleth a heriol i'w hatal a'u datrys.

"Mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd yng Nghymru gafodd ei chyflwyno yn 2015 yn golygu fod awdurdodau lleol yn helpu mwy o deuluoedd wrth sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn ddigartref.

"Ar draws Cymru mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd yn cysylltu 芒'u hawdurdod lleol am gymorth."