Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim gwasanaeth bysiau mewn rhannau o Wynedd
Mae rhai cymunedau yng Ngwynedd heb wasanaeth bws wedi i drwydded gael ei gymryd oddi ar un cwmni.
Fe benderfynodd y Comisiynydd Traffig, Nick Jones ym mis Awst na fydd Express Motors, o Benygroes ger Caernarfon, yn gallu gweithredu fel cwmni bysiau o ddiwedd 2017.
Daeth y penderfyniad hynny ar 么l i ymchwiliad gan Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ddod i'r casgliad bod rhai o'u dogfennau cynnal a chadw wedi cael eu ffugio.
Roedd y cwmni yn gyfrifol am wasanaethu teithiau yn y sir rhwng Bangor a Dolgellau.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaethau eraill, yn enwedig bysiau ysgol.
Dim gwasanaethau
Mae pentrefi Morfa Bychan a Borth-y-gest ger Porthmadog wedi colli 10 bws dyddiol - gyda dim gwasanaethau wedi'u trefnu yn lle gwasanaeth rhif 99.
Mae gwasanaeth oedd yn rhedeg 14 gwaith rhwng Porthmadog a Chaernarfon bellach ond yn rhedeg tair gwaith y diwrnod.
Tebyg yw'r sefyllfa hefyd ym mhentrefi Dinorwig a Deiniolen, gyda'r gwasanaethau bysiau yno wedi'u haneru.
Mae pentref Dinorwig ger Llanberis wedi'i gadael gyda thri bws y dydd, gyda'r bws olaf yn gadael am Gaernarfon am 16:10.
'Problem fawr'
Dywedodd Cynghorydd Sir Gorllewin Porthmadog, Selwyn Griffiths fod y sefyllfa ym Morth-y-gest yn annerbyniol.
"Dwi'n hynod siomedig - mae'n broblem fawr, yn enwedig ar gyfer yr henoed yma," meddai.
Ychwanegodd "Roedd arfer bod gwasanaeth pob awr rhwng 08:30 a 18:30 - bellach does gennym ni ddim byd."
Mae cwmni newydd Express Motors (Caernarfon) wedi gwneud cais i adfer eu trwydded, gyda gwrandawiad i'w gynnal ar 17 Ionawr.
Mae cyfarwyddwr y cwmni, Ian Wyn Jones wedi'i wahardd rhag cael trwydded i yrru bws am 12 mis am ffugio dogfennau cynnal a chadw, ac mae'r rheolwr trafnidiaeth, Kevin Wyn wedi ei wahardd rhag gwneud ei waith oni bai ei fod yn gwneud cwrs arbenigol o'r newydd yngl欧n 芒'i r么l.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau bws cyhoeddus ac ysgolion ar gael i drigolion Gwynedd, ac rydym yn hyderus y bydd y gwasanaethau bws yma'n parhau o fis Ionawr 2018 ymlaen."