拢2m ychwanegol i'r Mudiad Meithrin hybu'r Gymraeg

Fe fydd Mudiad Meithrin yn derbyn 拢1m yn ychwanegol bob blwyddyn am y ddwy flynedd nesaf fel eu bod yn gallu cyfrannu tuag at geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Daw'r arian ychwanegol o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar Gyllideb Cymru.

Mae'r mudiad eisoes yn derbyn 拢2.031m o gyllid blynyddol, ond bydd hynny'n codi i 拢3.031m.

Daw'r cyllid ar 么l i'r sefydliad gyhoeddi'r papur 'Meithrin Miliwn' yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i'r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd y mudiad y byddai'r arian ychwanegol yn eu galluogi i:

  • Gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau 芒 blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • Datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd;
  • Cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi'r cynnydd yn nifer yr aelodau.

'Cylchoedd meithrin ychwanegol'

Wrth gyhoeddi'r arian ychwanegol dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: "Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn.

"Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

"Gan mai Mudiad Meithrin yw'r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i'w wneud."

Dywedodd prif weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies: "Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o'r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith 'Cymraeg 2050'.

"Mae'r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn."