Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwedd cyfnod i Bryn Williams o Ffestiniog wedi 50 mlynedd
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae hi'n ddiwedd cyfnod i ddyn busnes o Lan Ffestiniog sydd wedi bod yn gwasanaethu trigolion y gymuned ers dros 50 mlynedd.
Mae Bryn Williams, 83, yn wyneb cyfarwydd i nifer, ond bydd yn rhoi'r gorau i ddosbarthu wyau a chynnyrch eraill i gartrefi'r fro.
Yn ogystal 芒 gwerthu wyau mae Mr Williams hefyd wedi bod yn dosbarthu llysiau o ddrws i ddrws allan o'i fan.
Dywedodd: "Mi fydd hi'n rhyfedd rhoi'r gorau iddi ar 么l mynd o d欧 i d欧 ar hyd y blynyddoedd.
"Dwi'n teimlo bod yr amser wedi dod a dwi'n 83 oed ond yn dal i gael iechyd da."
'Diolchgar iawn'
Un sydd wedi bod yn derbyn wyau gan Mr Williams yw Wil Price o Flaenau Ffestiniog, sy'n "ddiolchgar iawn" iddo.
Dywedodd Mr Price: "Ers blynyddoedd maith mae ei wasanaeth wedi bod yn ddi-dor i bawb ac mae pawb yn ddiolchgar dros ben am iddo dd诺ad drwy bob tywydd."
"'Dach chi'n gwybod ar 么l i'r ffynnon sychu 'de ni gyd yn gweld ei gwerth hi, ac yn sicr mi fydd na golled fawr ar 么l i ffynnon Bryn sychu fyny.
"Mae'n ddiwedd cyfnod arbennig iawn yn hanes Blaenau wrth gwrs, 'dan ni wedi colli ein dyn llefrith ers blynyddoedd, ein dyn bara ers blynyddoedd a r诺an 'dan ni'n colli gwasanaeth gwerthfawr iawn unwaith eto."
'Ffordd o fyw wedi newid'
Wrth i Mr Williams orffen gwerthu o ddrws i ddrws mae'n dweud y bydd o'n cadw'n brysur ac yn dal mynd ag wyau i'r caffis lleol, ac yn gwerthu coed hefyd.
Mae Mr Williams hefyd yn cydnabod bod pethau wedi newid ers iddo ddechrau gwerthu wyau.
"Mae ffordd o fyw wedi newid yn tydi ac wedyn mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth.
"Dwi wedi gweld ar hyd y blynyddoedd busnes yn mynd i lawr o flwyddyn i flwyddyn."
Ycwhanegodd: "Faswn i'n hoffi diolch i'r holl gwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd a dymuno nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb."