成人快手

Rhybudd y gallai isafbris alcohol daro pobl dlawd

  • Cyhoeddwyd
AlcoholFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 4% o'r rheiny sy'n yfed alcohol yn cael eu gweld fel "yfwyr niweidiol"

Gallai cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru daro pobl ar gyflogau is ac arwain rhai i droi at gyffuriau, yn 么l melin drafod.

Mae'r Sefydliad Materion Economaidd (IEA) hefyd yn honni ei bod yn "amhosib" darogan sut y bydd cwsmeriaid yn ymateb.

Bydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad yn clywed tystiolaeth ddydd Mercher ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno isafbris o 50c yr uned.

Daw wrth i ymchwil newydd honni y bydd y polisi yn arwain at 66 yn llai o farwolaethau a 1,281 yn llai o ymweliadau ag ysbytai pob blwyddyn.

Canfyddiadau

Cafodd gr诺p ymchwil alcohol Prifysgol Sheffield, fydd hefyd yn rhoi tystiolaeth i ACau, gais i ddiweddaru ei wybodaeth o'r astudiaeth wreiddiol.

Fe wnaethon nhw ddarganfod:

  • Mewn ardaloedd difreintiedig, dim ond 0.6% o'r rheiny sy'n yfed sy'n yfwyr niweidiol, ond yr amcangyfrif yw mai nhw yw 45% o'r marwolaethau sy'n ymwneud ag alcohol;

  • Bod yfwyr niweidiol yn prynu 46% o'u halcohol am lai na 50c yr uned - o'i gymharu 芒 22% o yfwyr cymedrol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Byddai cyflwyno isafbris uned o 50c yn golygu na fyddai can o seidr yn cael costio llai na 拢1, neu 拢4.69 am botel o win.

Fe fyddai litr o fodca, er enghraifft, yn gorfod costio mwy nag 拢20.

'Troi at gyffuriau'

Dywedodd melin drafod yr IEA mai'r unig ganlyniad pendant yw y bydd y newid yn codi pris alcohol rhad.

"Bydd yn cael gwared ar eitemau rhad a gorfodi cwsmeriaid sydd yn prynu'r rhain fel arfer i fynd am gynnyrch drytach," meddai pennaeth economaidd yr IEA, Chris Snowdon.

"Mae'n debygol y bydd yn arwain yfwyr sy'n ddibynnol ar alcohol i newid o seidr i wirod.

"Gallai hefyd arwain rhai grwpiau, yn enwedig pobl ifanc, i droi at y cyffuriau anghyfreithlon rhataf."

Dywedodd y gallai hefyd arwain at bobl i wneud heb bethau elfennol fel bwyd a chynhesrwydd mewn ymdrech i ariannu yfed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad yw targedu archfarchnadoedd a siopau sydd 芒 thrwydded i werthu alcohol

Mae'r economegydd o'r Unol Daleithiau, Jon P Nelson, hefyd yn cwestiynu'r cynlluniau, ac mae wedi ysgrifennu at y pwyllgor i ddweud bod "dim cefnogaeth i'r awgrym y bydd isafbris yn effeithiol yn y tymor hir yn lleihau defnydd trwm o alcohol".

Ond mae gr诺p ymchwil alcohol Prifysgol Sheffield yn anghytuno, gan ddweud y byddai'r isafbris yn arwain at "welliannau i iechyd cyhoeddus" tra'n cael "effaith bychan iawn ar yfwyr cymedrol".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod canfyddiadau'r ymchwil yn dystiolaeth bellach o'r "cyswllt clir ac uniongyrchol" rhwng goryfed ac argaeledd alcohol rhad.

"Mae pob marwolaeth sy'n ymwneud ag alcohol yn farwolaeth y mae modd eu hosgoi, felly trwy gyflwyno'r mesur yma byddwn yn achub bywydau," meddai.