Eisteddfod M么n 'o fewn oriau' i gael ei chanslo

Disgrifiad o'r llun, Mwd yn y maes parcio oedd un o brif effeithiau'r tywydd yn ystod Eisteddfod M么n

Roedd Eisteddfod Genedlaethol eleni "o fewn ychydig oriau" i gael ei chanslo - a hynny am y tro cyntaf yn ei hanes - yn 么l adroddiad i gyngor y brifwyl.

Cafodd yr 诺yl ei heffeithio gan law trwm ar Ynys M么n ac fe gafodd y maes parcio ei symud i safle newydd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod yr Eisteddfod wedi gorfod "gweithredu cynllun B" a hynny "am y tro cyntaf."

Yn 么l y ddogfen, roedd yr 诺yl yn "fodlon iawn" gyda'r ffordd y gweithiodd y cynllun hwnnw.

Fe wnaeth yr 诺yl ym M么n adael gweddill ar 么l i'r gronfa leol gasglu mwy na'r nod.

'Cynllun B'

Yn wreiddiol, roedd maes parcio'r brifwyl ym M么n gyferbyn 芒 safle'r brifwyl ym Modedern. Ond yn dilyn y tywydd garw dros y penwythnos cyntaf, cafodd ei symud i dir ger maes parcio Sioe M么n ym Mona.

Er mai trefniant dros dro oedd hwn i gychwyn, cafodd ei ymestyn am weddill yr wythnos.

"Yn dilyn y glaw, ni fu modd defnyddio'r meysydd parcio wrth ymyl y Maes, a bu staff yn trafod ac yn dilyn cyngor gan yr Heddlu yngl欧n 芒 hyn yn ystod yr wythnos," meddai'r .

"Am y tro cyntaf, bu'n rhaid gweithredu Cynllun B. Heb y cynllun hwn mewn lle ac yn barod i'w weithredu o fewn ychydig oriau, ni fyddai'r 诺yl wedi gallu parhau.

"Roeddem yn fodlon iawn gyda'r ffordd y gweithiodd y cynllun wrth gefn, ac er bod ciwiau'n broblem, yn enwedig ar y bore Llun wrth i'r system ddod i drefn, roedd y rhan fwyaf o ymwelwyr yn fodlon gyda'r hyn a drefnwyd a sut y gweithiodd pethau am weddill yr wythnos."

Mae'r adroddiad yn cydnabod cymorth gwirfoddolwyr o Glwb Rygbi Llangefni a'r rheiny fu'n helpu Eisteddfodwyr oedd 芒 cheir yn sownd.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn dweud bod yr Eisteddfod wedi "defnyddio cerrig er mwyn creu llwybrau yn hytrach na thracfyrddau lle bo'n bosibl" achos "arbedion ariannol hanesyddol"

Ond mae'r ddogfen hefyd yn cyfadde' bod angen gwelliannau yn y ddarpariaeth i bobl anabl, gan gydnabod bod llwybrau cerrig wedi achosi trafferthion i rai.

"Eleni, roedd rhai o'r cerrig yn fawr ac yn drwsgl ac achosodd hyn broblemau i rai ymwelwyr wrth geisio symud o gae i gae," meddai.

Mae'n ychwanegu bod angen "ystyried a oes gormod o lwybrau cerrig ar y Maes sy'n effeithio ar hygyrchedd", gan ddweud hefyd bod "angen creu llwybr pwrpasol ac addas ar gyfer ymwelwyr bregus ac anabl wedi'i oleuo" i gysylltu'r maes a'r maes parcio anabl a'r maes carafanau.

Fe fydd y brifwyl nesaf yn 2018 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad dros y penwythnos mai yn Llanrwst fydd Eisteddfod 2019.