成人快手

Nadolig figan yr actores Ceri Lloyd

  • Cyhoeddwyd
Ceri Lloyd a choeden NadoligFfynhonnell y llun, Gwion Llewelyn

Wrth i'r rhan fwyaf ohonon ni setlo i lawr i blannu mewn i bl芒t enfawr o dwrci a'r holl drimins, beth mae rhywun sy'n figan yn ei fwyta dros y Nadolig?

Yr actores Ceri Lloyd, sy'n actio Carys ar gyfres sebon Rownd a Rownd ac yn figan ers dros bedair blynedd, sy'n egluro beth fydd ar ei phl芒t ddiwrnod Dolig a pham na fydd yn cynnwys unrhyw fath o gynnyrch anifail.

Stwffio'r twrci

I bobl sy'n colli blas cig mae'r peth awesome yma i gael o'r enw tofurkey, sef tofu gyda ryw fath o stwffin. Chi'n ei roi yn y ffwrn am tua 45 munud ac mae'n rili rili blasus.

Mae alternatives i pigs in blanket i gael hefyd.

Wedyn fydda' i'n cael llwyth a llwyth o lysiau. Fel arfer fi'n gwneud tatws melys gyda bach o maple syrup i gael blas wedi ei garameleiddio. Fi'n caru panas a llwyth o datws rhost hefyd - fi'n coginio nhw mewn olew coconyt yn hytrach nag olive oil, jyst i'w gwneud nhw bach mwy iachus.

Beth am y grefi?

Fi'n gluten free hefyd ac mae 'na gwmni sy'n gwneud paced chi jyst yn adio d诺r iddo fe. Mae'n tastio'n lyfli a does dim glwten ynddo fe.

Mae llwyth o alternatives i'w cael ac os ewch chi i'ch siop bwyd iach lleol a gofyn iddyn nhw, fe fyddan nhw'n fwy na pharod i'ch helpu gyda pethau fel 'na.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Ti di clywed am tofurkey Barry?' Ceri fel Carys ar Rownd a Rownd

Pwdin a siocledi

Fel arfer mi wn芒i wneud crymbl - mae gan Deliciously Ella rys谩it anhygoel gyda blueberries a mafon ffresh, ceirch heb glwten a bach o ffl诺r i greu top i'r crymbl sy'n rili blasus.

Fi'n dwli gwneud chocolate mousse hefyd - ti'n gallu ei wneud gyda afocado, banana, powdr cacao, menyn almwnd a tamed bach o maple syrup. Ti'n rhoi nhw i mewn i brosesydd bwyd ac mae'n gwneud m诺s siocled.

O ran bwyta siocledi, mae siocled 70% sy'n addas i figans ar gael yn y rhan fwyaf o siopau.

Bisgedi a caws

Eto mae llwyth o alternatives caws i gael mewn rhai archfarchnadoedd - 'newch chi eu gweld nhw tamed bach is i lawr o lle mae'r caws normal yn cael ei gadw.

Mae llwyth o fisgedi ar gael sydd ddim yn cynnwys wyau a llaeth - mater o fynd i chwilio yn yr adran Free From.

Ffynhonnell y llun, Gwion Llewelyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er fod archfarchnadoedd yn dechrau dal i fyny, mae'n rhaid chwilota mewn siopau bwyd iach i gael llawer o gynnyrch figan

Y slymp

Fi 'di ffeindio nad ydw i'n cael y slymp yna ar 么l cinio fel arfer achos fi'n bwyta lot o gnau. Mae lot o gnau yn be' fi'n fwyta yn y bore - mae hwnna'n cadw ti i fynd ac yn rhoi lot fawr o egni i ti.

Yn y gwaith yn enwedig mae angen gymaint o egni i fynd drwy'r diwrnod achos ti'n blino ac mae pawb ar y set yn dibynnu arnat ti i allu canolbwyntio.

Ond 'sdim ots gyda fi gael y slymp ar ddiwrnod Nadolig!

Mwy o egni

Cyn troi'n figan roedd fy neiet i'n eitha' gwael. O'n i ddim yn becso beth o'n i'n rhoi yn fy nghorff i a doeddwn i heb wneud y cysylltiad rhwng yr holl fwyd takeaway a sut roedd yn effeithio ar fy nghroen a fy nhymer i.

Nes i ddechrau edrych mewn i'r peth ar 么l darllen llyfr am fod yn figan a dechrau gweld y manteision - roedd fy mhwysau wedi lefelu, oedd 'da fi gymaint mwy o egni ac roedd fy nghroen i wedi clirio felly nes i byth edrych n么l.

Wedyn fe wnaeth yr ochr ethical sbarduno fi 'mlaen i gadw i fod yn figan. Ro'n i'n falch i beidio rhoi arian i'r meat and dairy industry achos o'n i'n anghytuno gyda'r ffordd mae rhai ffermydd ffatri yn trin eu hanifeiliaid.

O ble daw'r protein?

Mae preconception eich bod chi angen lot fawr o brotein, ond dy'ch chi ddim. Fi'n adio powdr protein fegan i smwddis yn y bore a fi'n ffeindio mod i'n cael mwy o faeth a phrotein na fyddai rhywun sydd ddim yn dilyn deiet figan achos mod i'n ymwybodol o beth fi'n rhoi yn fy nghorff.

Yn y bore dwi'n cael lot o uwd gyda menyn almwnd - mae llwyth o brotein mewn cnau almwnd - a lot o ffrwythau. Yna smwddi gyda c锚l, llaeth ceirch a banana, mae lot o brotein mewn banana ac mewn spinach hefyd, felly mae siawns fyswn i'n cael digon o brotein am y diwrnod jyst yn fy mrecwast.

Meddylia am fwyd fel ffordd o roi egni i dy gorff, nid rhywbeth sy'n gwneud i ti deimlo'n rili llawn ac yn dy flino.

Gair o rybudd...

Fyswn i'n dweud wrth bobl am ddarllen beth sydd yn y cynhwysion o ran siwgr ac yn y blaen oherwydd er bod rhywbeth yn vegan friendly 'dyw hwnna ddim o anghenraid yn golygu bod e'n fwy iachus.

Yr un peth gyda'r trend gluten free. Fe wnaeth lot o bobl ddechrau bwyta pethau oedd heb glwten ond o'n nhw ddim o anghenraid yn well iddyn nhw na phethau gyda glwten ynddyn nhw.

Er bod y cynnyrch yma'n defnyddio substitutes fel sweeteners, sy'n waeth i chi na siwgr.

A fyswn i ddim yn ei gorwneud hi ar stwff fel tofurkey chwaith achos mae'r soia ynddo fe yn eitha' processed. Ond mae'n gr锚t adeg y Nadolig pryd chi eisiau indulgio.

Nadolig Figan Llawen!

Efallai o ddiddordeb...