Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Nifer wedi eu 'cam-drin gan fynach'
Mae newyddiadurwraig sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhyw ar Ynys B欧r yn y 70au a'r 80au wedi dweud wrth 成人快手 Cymru ei bod hi'n poeni bod nifer fawr o blant wedi dioddef.
Dywedodd Amanda Gearing wrth 成人快手 Cymru fod cyn-fynach wedi ymosod ar blant tra roeddynt yn cerdded ar yr ynys oddi ar arfordir Sir Benfro.
Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik 1992 ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwynion am fynach oedd yn byw ar yr ynys ger Dinbych-y-pysgod.
Mae Abaty Ynys B欧r wedi talu iawndal i chwech o fenywod gafodd eu cam-drin pan yn blant gan y Tad Kotik oedd wedi byw ar yr ynys am 45 o flynyddoedd.
Roedd Kotik wedi llwyddo i ddod yn gyfeillgar gyda theuluoedd oedd yn ymweld 芒'r ynys ar eu gwyliau.
Dywedodd Ms Gearing, newyddiadurwraig o Awstralia, ei bod wedi dechrau ymchwilio ar 么l iddi ddechrau sgwrsio efo un o'r dioddefwyr sydd erbyn hyn yn byw yn Awstralia.
Ychwanegodd ei bod hi wedi casglu tystiolaeth sy'n awgrymu fod o leiaf un person arall wedi bod yn cam-drin plant yn ystod y cyfnod.
Mewn ymateb i'r honiadau yngl欧n ag Ynys B欧r, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
"Yn sgil yr honiadau a'r erthyglau dros y penwythnos, fe fydden ni'n argymell unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth neu bryderon ynghylch y sefyllfa ar Ynys B欧r i gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys ar 101.
"Fe wna i barhau i gyfarfod gydag arweinwyr diogelu plant o bob ffydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, i drafod amddiffyn plant a hawliau plant.
"Yn sgil y newyddion diweddar yma fe fyddai'n ysgrifennu at Abaty yr Ynys am fwy o wybodaeth ynghylch eu cyfundrefn diogelu plant er mwyn sicrhau fod unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n ymweld 芒'r Ynys a'u heglwysi nawr yn ddiogel."