Llygredd Nantycaws: Trigolion yn parhau heb iawndal

Disgrifiad o'r llun, Mae Valero yn dweud eu bod yn "cydnabod bod y gollyngiad wedi achosi anhwylustod"

Dros flwyddyn ers i 140,000 litr o olew ollwng i afon yn Sir Gaerfyrddin, mae pobl leol yn parhau i ddisgwyl am iawndal.

Mae Valero, sy'n berchen ar y bibell, wedi rhoi 拢40,000 i'r cyngor cymunedol "mewn cydnabyddiaeth o amynedd trigolion".

Ond mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad yn Nantycaws yn dweud eu bod wedi derbyn dim.

Mae'r cwmni yn mynnu eu bod "mewn cysylltiad cyson gyda thrigolion a thirfeddianwyr" yngl欧n 芒'r mater.

'Costio miloedd'

Mae Gareth Rees yn ffermio tir ger Nant Pibwr - un o'r nentydd gafodd eu heffeithio gan y cerosin.

Dywedodd wrth 成人快手 Cymru nad yw'r trafodaethau rhwng trigolion a'r cwmni'n mynd yn dda.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Gareth Rees nad yw Valero "yn fodlon cyfaddef eu bai"

"Rhwng popeth mae e wedi costio miloedd - colli bwyd i'r anifeiliaid, colli'r afon fel ffynhonnell d诺r i'r gwartheg a llawer iawn o amser hefyd.

"Ar y foment mae asiant gyda ni o Valero, ond mae'n dipyn o broblem cael arian mas o'r cwmni. Dydyn nhw ddim yn fodlon cyfaddef eu bai.

"Roedden nhw'n addo popeth ar y dechrau, ond nawr mae popeth wedi mynd yn dawel - maen nhw'n anghofio biti fe.

"Maen nhw'n ceisio cerdded i ffwrdd heb dalu beth mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio yn ei haeddu."

'Colli cwsg'

Ychwanegodd y cynghorydd lleol, Elwyn Williams bod y digwyddiad wedi cael effaith enfawr ar yr ardal, gydag arogl cerosin amlwg a ffordd yr A48 wedi'i chau wrth i'r bibell gael ei thrwsio.

"Doedd llawer o bobl ddim yn gallu cysgu, ac aeth rhai ar eu gwyliau hyd yn oed am ei bod yn cymryd awr i wneud taith pum munud am fod y ffordd ar gau," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams bod cau'r A48 wedi cael effaith enfawr yn lleol

Dywedodd llefarydd ar ran Valero eu bod yn "cydnabod bod y gollyngiad o'r bibell wedi achosi anhwylustod i dirfeddianwyr a phobl leol".

"Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda thrigolion a thirfeddianwyr ers mis Hydref y llynedd i'w diweddaru ar y gwaith trwsio, y gwaith adfer ac o ran hawlio am unrhyw effaith niweidiol y cafodd y cerosin," meddai.

"Y tro diwethaf i ni gysylltu 芒'r trigolion oedd ym mis Medi 2017 ac rydyn ni'n parhau i drafod 芒 nhw un ai'n uniongyrchol neu trwy asiantau am iawndal."

Ychwanegwyd eu bod wedi gweithio i helpu unrhyw dirfeddianwyr oedd wedi codi pryderon am eu tir o ganlyniad i'r gollyngiad.

Mae'r cyngor cymunedol yn Llangunnor eto i benderfynu sut i wario'r rhodd o 拢40,000 gan Valero, ac maen nhw'n gofyn am awgrymiadau gan bobl leol.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i drafod sut i'w wario.