成人快手

Cannoedd yn angladd prifathrawes groenddu cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Betty Campbell

Cafodd angladd prifathrawes groenddu cyntaf Cymru, Betty Campbell, ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Fe orymdeithiodd cannoedd y tu 么l i'r arch wrth iddyn nhw gerdded i'r angladd yn eglwys y Wyryf Santes Fair yn Nhre-biwt, a hynny i sain band jazz yn canu When The Saints go Marching In.

Cafodd gwasanaeth byr ei gynnal ym Mynwent y Gorllewin yn Nhrel谩i yn dilyn hynny.

Disgrifiodd un o'r galarwyr Ms Campbell fel "santes".

Bu farw Betty Campbell 82 oed yn ei chartref yn Nhre-biwt ar 14 Hydref, ar 么l bod yn s芒l am rai misoedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd band jazz yn arwain yr arch a'r galarwyr i'r angladd

Cafodd Rachel Elizabeth Campbell ei geni yng Nghaerdydd i dad o Jamaica a mam Gymreig o Farbados.

Rhwng 1960 ac 1999 bu'n gweithio fel athrawes a phrifathrawes yn ardaloedd amlethnig y ddinas, yn gyntaf yn Llanrhymni ac yna yn Ysgol Gynradd Mount Stuart.

Roedd hi hefyd yn aelod o'r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.

Ffynhonnell y llun, WalesOnline
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Tywysog Charles yn ymweld ag ysgol Betty Campbell ar gyfer Eisteddfod Dydd G诺yl Dewi yn 1994

Cafodd Ms Campbell, oedd hefyd yn gyn-gynghorydd yn ward Tre-biwt, anrhydedd yr MBE am ei gwasanaeth i'w chymuned ac i addysg.

Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli i fod yn brifathrawes pan ddywedodd wrth un o'i hathrawon yn yr ysgol am ei huchelgais, dim ond iddi hi ddweud y "byddai'r problemau'n anorchfygol".

Mewn teyrnged, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, bod Ms Campbell yn "arloeswr go iawn ac yn ysbrydoliaeth" wnaeth "chwalu'r rhwystrau er mwyn i eraill allu dilyn yn olion ei thraed".