成人快手

Cynnydd figaniaeth yn peri pryder i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
LlaethFfynhonnell y llun, PA

Mae pryderon ymhlith ffermwyr llaeth yng Nghymru bod gormod o bobl yn troi at ddiet figan.

Yn 么l cadeirydd Sioe Laeth Cymru, Colin Evans, mae cynnydd yn nifer yr enwogion figan yn mynd i orfodi ffermwyr i "brofi" eu bod yn "gallu cynhyrchu bwyd mewn modd iach."

Dangosodd arolwg gan Y Gymdeithas Figan y llynedd fod 3.25% o boblogaeth Prydan nawr yn llysieuwyr, a bod nifer y figaniaid yn cynyddu.

Ond mae Undeb y Ffermwyr yn pwysleisio mai dim ond 1% sy'n figaniaid.

Daw sylwadau Mr Evans ar ddiwrnod cynta'r sioe laeth yn Nantyci yn Sir Gaerfyrddin.

'Atebion yn barod'

"Mae'n rhaid bod hwn yn ein poeni ni," meddai Mr Evans.

"Mae pobl enwog yn cefnogi ymgyrchoedd sy'n annog figaniaieth neu ddiet llysieuol.

"Bydd rhaid i ni gael yr atebion yn barod ar gyfer y bobl yma, i brofi ein bod ni yn gofalu am ein hanifeiliaid a'n bod ni'n cynhyrchu bwyd mewn modd iach."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Colin Evans yn credu bod angen "profi" i gwsmeriaid bod cynnyrch bwyd llaeth yn iach

Mae aelod bwrdd llaeth Undeb yr Amaethwyr, Gareth Richards, o'r farn bod yn rhaid i ffermwyr wneud mwy i hyrwyddo'u cynnyrch.

"Dydyn ni ddim yn mynd allan yna i hyrwyddo'n hunain ddigon," meddai.

"Mae'n rhywbeth sy'n rhaid i ni wneud mwy ohono, unai drwy siarad mwy gyda siopwyr mewn archfarchnadoedd, mewn marchnad ffermwyr neu beth bynnag."

Yn 么l Undeb yr Amaethwyr rhaid rhoi'r cynnydd mewn figaniaeth mewn cyd-destun, ac mai "dim ond 1%" o boblogaeth Prydain sy'n figaniaid.

"Mae'r weithredaeth figan sydd wedi cael ei weld ar draws Prydain yn ystod y misoedd diwethaf yn cynrychioli barn eithafol o ffermio llawer, ac mae'n creu portread cwbl annheg o'r diwydiant."

"Mae dros 98% o'r boblogaeth yn dal i fwyta, yfed a mwynhau cynnyrch llaeth fel rhan o ddiet cytbwys."