成人快手

Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru

  • Cyhoeddwyd
nations leagueFfynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma sut cafodd y timau eu dosbarthu yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Mae t卯m p锚l-droed Cymru wedi eu gosod yn yr ail haen o dimau ar gyfer cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd gan UEFA.

Bydd Cymru yng Nghynghrair B ynghyd 芒 Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, gyda'r Alban yng Nghynghrair C, a Lloegr yng Nghynghrair A.

Cafodd 55 t卯m rhyngwladol Ewrop eu rhoi mewn cynghreiriau ar sail eu lle ar restr detholion UEFA.

Methodd Cymru a sicrhau lle yng Nghynghrair A yn dilyn y golled yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Lun - colled wnaeth hefyd olygu bod Cymru yn methu allan ar gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae Cynghrair y Cenhedloedd yn gystadleuaeth newydd gan UEFA fydd yn cymryd lle gemau cyfeillgar i wledydd Ewrop ar ddyddiau gemau rhyngwladol.

Mae holl dimau Ewrop wedi eu gosod mewn pedair 'cynghrair' a bydd enillwyr pob cynghrair yn cael lle yn rowndiau terfynol Euro 2020.

Fe fydd rowndiau rhagbrofol arferol ar gyfer Euro 2020, gyda'r ddau d卯m uchaf o 10 gr诺p yn cymryd 20 o'r 24 lle yn y rowndiau terfynol.

Ond ni fydd y rowndiau rhagbrofol arferol yn dechrau tan Mawrth 2019 wedi i Gynghrair y Cenhedloedd ddod i ben.

Yn hytrach na gemau ail gyfle arferol, Cynghrair y Cenhedloedd fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y pedwar lle arall yn y rowndiau yna.

Gan fod y 12 t卯m cryfa' yn 么l rhestr detholion UEFA (nid detholion y byd FIFA) yng Nghynghrair A, dyw'r newyddion ddim yn ddrwg i gyd i Gymru, gan ei bod yn ymddangos mai nhw yw'r t卯m cryfaf ar bapur yng Nghynghrair B.

Bydd gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn dechrau ym mis Medi 2018.