Chris Coleman: Ap锚l gan chwaraewyr iddo aros
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o chwaraewyr mwyaf profiadol t卯m p锚l-droed Cymru wedi cynnal cyfarfod gyda'r rheolwr Chris Coleman yn gofyn iddo aros yn y swydd.
Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn haf 2018, ond fe welwyd y freuddwyd o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn dod i ben nos Lun wrth golli 1-0 i Weriniaeth Iwerddon.
Ers y golled mae nifer o chwaraewyr, gan gynnwys Gareth Bale, wedi gofyn i Coleman ystyried parhau yn y swydd.
Mae'r amddiffynwr Chris Gunter wedi mynegi ei ddymuniad i weld y rheolwr yn aros, a dywedodd: "Rwy'n credu y byddai pawb yng Nghymru, cefnogwyr a chwaraewyr, am ei weld yn aros 100%.
"Mae e wedi bod yn rhan enfawr o'r hyn yr y'n ni wedi ei gyflawni, a fe yw'r dyn, gobeithio, i fynd 芒 ni ymlaen.
"Os ydy'r awdurdodau yn medru cynnig cytundeb da iawn iddo a'i berswadio i aros, fe all gario 'mlaen i fod yn rheolwr gorau Cymru erioed."
Gyda dyfodol Coleman yn ansicr nawr fod Cymru allan o'r gystadleuaeth, mae sawl un yn dyfalu os mai hon oedd ei g锚m olaf wrth y llyw.
Wedi'r g锚m dywedodd Coleman wrth raglen Sgorio ar S4C ei fod am fynd ffwrdd a meddwl cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ei ddyfodol.
"Dwi'n siomedig gyda'r canlyniad. Mae'r bechgyn i gyd gan gynnwys y staff yn siomedig yn yr ystafell newid.
"Ond dwi am fynd i ffwrdd i feddwl ac i adael i'r canlyniad yma suddo fewn cyn gwneud unrhyw benderfyniad," meddai.
Mae cytundeb Chris Coleman yn dod i ben yn yr haf ac mae eisoes wedi datgan gallai'r ymgyrch ddiweddara fod yr un ddiwethaf iddo fel rheolwr Cymru.
Mae cyn ymosodwr Cymru, John Hartson wedi dweud y dylai Coleman adael ei swydd fel rheolwr Cymru a disgrifiodd fel "rheolwr mwyaf llwyddianus Cymru".
"Dwi'n credu mai dim ond Chris fydd yn gallu ateb y cwestiwn. Yn bersonol dwi'n credu y gwneith gerdded i ffwrdd nawr. Fydd na ddigon o gynigion iddo," meddai.
"Mae wedi profi ei hun fel rheolwr Cymru a dwi'n credu ei fod yn barod am swydd fawr os mai dyna mae Chris eisiau."
'Cenedl yn brifo'
Yn ystod cynhadledd i'r wasg wedi'r g锚m, dywedodd Coleman ei fod angen amser i benderfynu ar ei ddyfodol tra bod y "genedl yn brifo ac yn siomedig".
Dywedodd: "Dydw i ddim yn meddwl am fy nyfodol ar hyn o bryd.
"Mae 'na siawns nai aros a siawns y gwnai ddim. Allai ddim rhoi ateb ar hyn o bryd.
"Nid yw'n fater o arwyddo cytundeb newydd. Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi bod yn wych gyda mi.
"Bydd trafodaethau yn digwydd maes o law ac mae g锚m gyfeillgar mis nesaf.
"Mae fy ngytundeb yn dod i ben yn yr haf, ar hyn o bryd dwi'n meddwl am y profiad.
"Fe wnai dreulio amser gyda fy nheulu a chawn weld lle fyddai'n mynd wedyn."
Un o uchafbwyntiau'r noson o ran Cymru oedd yr anthem cyn y g锚m.
Am y tro cyntaf mewn hanes fe gafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chanu yn ddigyfeiliant cyn g锚m b锚l-droed ryngwladol.
Cymru ddechreuodd y g锚m orau, ac am y chwarter awr agoriadol roedd canol cae Cymru yn llwyr reoli'r meddiant gyda phasio taclus rhwng Allen a Ramsey yn rhoi pwysau ar amddiffyn y Gwyddelod.
Colli Allen
Daeth ergyd i Gymru wedi 33 munud pan oedd rhaid i Joe Allen adael y cae wedi trosedd gan James McClean. Jonny Williams ddaeth ar y maes yn ei le.
Fe wnaeth ymadawiad Allen roi hwb o ysbrydoliaeth i'r Gwyddelod a nhw orffennodd yr hanner cyntaf gryfaf wrth amddiffyn yn gadarn a gorfodi chwaraewyr Cymru wneud camgymeriadau ar y b锚l.
Daeth ergyd i'r t卯m cartref wedi 53 o funudau.
Camgymeriad yn y cefn rhwng Wayne Henessey ac Ashley Williams, croesiad i'r canol ble roedd James McClean yn sefyll ar ei ben ei hun a fe gyfeiriodd y bel i gefn y rhwyd.
Gyda 27% o'r meddiant roedd ergyd McClean yn ddigon i Weriniaeth Iwerddon sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gyda Chymru yn gorffen yn drydydd yng ngr诺p D.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2017