成人快手

Galw am wasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
iechyd meddwlFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymgyrchwyr hawliau pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl wedi disgrifio'r ddarpariaeth o wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg fel un "cwbl annigonol".

Daw sylw Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr gwefan ar ddiwnod Iechyd Meddwl y Byd.

Dywedodd: "Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg yn fater o angen, nid dewis.

"Rydyn ni'n gobeithio bod y profiadau sy'n cael eu rhannu ar meddwl.org yn dystiolaeth i'r byrddau iechyd a llunwyr polis茂au pa mor bwysig, ac angenrheidiol, yw derbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r nod yw sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.

'Rhaid i bethau newid'

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi disgrifio'r sefyllfa fel un annerbyniol, gan ddweud bod yr angen am wasanaeth yn Gymraeg yn hawl clinigol.

Mae Meri Huws yn dweud fod pethau wedi symud ymlaen rhywfaint a bod pobl nawr yn gofyn "shwt ma' gwneud hyn yn hytrach na pam" wrth gyfeirio am wasanaethau Cymraeg.

Ar raglen Taro'r Post 成人快手 Radio Cymru, dywedodd bod gan bobl hawl sylfaenol i gael gwasanaeth yn y Gymraeg gan ychwanegu fod r么l y llywodraeth yn un "anferth wrth gynllunio a recriwtio ar gyfer hyn".

"Be sy' angen yw pobl sy'n gallu cynnig y gwasanaethau, boed nhw'n ddoctoriaid, boed nhw'n nyrsys, boed nhw therapyddion - bod yna brinder ofnadwy o weithwyr maes proffesiynol yn y maes iechyd meddwl a dyna lle mae rhaid dechrau denu pobl ifanc mewn i'r proffesiynau i hyfforddi nhw i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, meddwl.org
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alaw Griffiths, golygydd Gyrru Drwy Storom, yn dweud bod yn rhaid i bethau newid

Yn 么l Llywodraeth Cymru eu nod yw sicrahu fod pobl yn gallu cael gwasanaeth yn y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd: "Y syniad yw bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn elfen graidd o'r gofal, ac nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol.

"Rydym yn gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau fod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gael i'r bobl sydd eu hangen, ac yn cael eu cynnig yn rhagweithiol."

'Dim mewn st芒d i ymgyrchu'

Mae Alaw Griffiths, golygydd Gyrru Drwy Storom, y gyfrol Gymraeg gyntaf ar iechyd meddwl yn dweud bod ei phrofiad personol o iselder yn cadarnhau bod yn rhaid i bethau newid.

"Mi wnes i ddioddef o iselder ar 么l geni a chael cynnig therapi siarad trwy gyfrwng y Saesneg," meddai Alaw.

"Doedd gen i ddim mo'r egni i ofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. A dwi'n meddwl fod hynny yn wir am y mwyafrif o gleifion iechyd meddwl.

"Pe byddwn i wedi bod gyda'r egni i fynnu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gallai aros yn hir am driniaeth oherwydd diffyg darparwyr fod wedi bod yn beryg bywyd.

"Dyw dioddefwyr ddim mewn st芒d feddyliol i ymgyrchu."

Cafodd gwefan meddwl.org ei sefydlu fis Tachwedd 2016 er mwyn rhoi cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n byw gyda salwch meddwl.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gyda'r cyllid yn cynyddu 拢20m eleni i dros 拢629m."