成人快手

Codi ymwybyddiaeth o ganser y fron mewn dynion

  • Cyhoeddwyd
Bryan ThornFfynhonnell y llun, Bryan Thorn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gododd Mr Thorn a'i wraig 拢2,500 i elusen ganser Walk The Walk

Mae tad i dri a gafodd driniaeth am ganser y fron yn annog dynion i ofalu nad oes ganddyn nhw symptomau o ganser.

Fe sylwodd Bryan Thorn, 48 oed o Faglan, Castell-nedd Port Talbot, lwmp yn ei fron yn 2012 tra'n cael cawod, ond ni chafodd ddiagnosis tan y flwyddyn ganlynol.

Nawr, mae'n galw ar ddynion i fynd at eu meddygon teulu os oes ganddyn nhw bryderon.

Fe ddaw'r alwad wrth i arolwg gan yr elusen Walk The Walk ddangos bod 54% o ddynion yn y DU erioed wedi archwilio'u hunain am symptomau.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy 54% o ddynion y DU erioed wedi archwilio'u hunain am symtomau canser y fron, yn 么l arolwg

Aeth Mr Thorn at ei feddyg am y tro cynta' bum mlynedd yn 么l.

"Doeddwn i ddim yn siecio ardal fy mron. Mewn gwirionedd, fel llawer o bobl, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod fod dynion i fod i siecio yn fanna," meddai.

"Wedi dweud hynny, doeddwn i ddim yn ddigon na茂f i gredu nad oedd dynion yn gallu cael canser y fron, ond doedd e ddim yn rhywbeth oeddech chi'n clywed amdano."

Cafodd ei gyfeirio ar glinig canser y fron, ond dywedwyd wrtho mai meinwe brasterog oedd yno.

Lwmp

Dim ond tua 12 mis yn ddiweddarach y sylwodd fod y lwmp yn tyfu, bod y dethen y tu chwith allan a'i fod yn boenus i gyffwrdd.

Wrth gofio'r diagnosis, dywedodd: "Roedd y cyfan yn swrreal. Rwy'n cofio fod fy ngwraig yn flin iawn, gan deimlo y dylai rhywbeth fod wedi cael ei wneud yn llawer cynt.

"Mae gen i gof o deimlo rhyddhad o gael gwybod bod modd trin y canser."

Aeth Mr Thorn ymlaen i gael llawdriniaeth mastectomy a chemotherapi, ac yna radiotherapi.

Mamogram blynyddol

Mae'n dal i gael mamogram blynyddol, a bydd hynny'n parhau tan y bydd wedi bod yn glir o ganser y fron am 10 mlynedd, ac mae'n rhaid iddo hefyd gymryd meddyginiaeth tan y bydd yn glir o ganser am bum mlynedd.

"Dydw i heb gwrdd 芒 dynion eraill sydd wedi'u heffeithio gan ganser y fron," meddai.

"Byddwn i'n annog bob dyn i siecio'u hunain yn gyson, ac os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon fe ddylen nhw fynd at eu meddyg teulu.

"Does dim fath beth ag apwyntiad wedi'i wastraffu, ac fe allai achub eu bywyd."