Pwy 'di'r Taid neu Nain?

Mae hi'n ddydd i chi nain/mam-gu a taid/tad-cu heddiw! Amser i eistedd mewn cadair gyfforddus, yn eich slipars, gyda phaned a bisged feddal.

Ydych chi'n 'nabod pwy ydy perthnasau adnabyddus yr enwogion yma?

Disgrifiad o'r llun, Roedd llais Elin Cain i'w glywed ar Radio Cymru Mwy y llynedd - ond ydych chi'n meddwl bod ei wyneb hi 'Run Sbit ag un ei nain siaradus?
Disgrifiad o'r llun, Gall nifer o blant Cymru ddiolch i daid yr actores Mari Emlyn am y cyfle i ymweld 芒 Llangrannog neu Glan Llyn a chael cystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o'r llun, Mae DJ Elan Evans yn troelli disgiau fel ei hewythr sbectolog, ond ydy hi hefyd wedi etifeddu dawn sgrifennu ei thad-cu?
Disgrifiad o'r llun, Mae talent yn amlwg Yn y Gwaed - ond ar gae p锚l-droed oedd Owain Tudur Jones yn serennu, tra fod ei daid yn fwy cyfforddus 芒 beiro yn ei law
Disgrifiad o'r llun, Er mai o Loegr oedd nain Marged, Elan a Gwilym o'r band Plu, sefydlodd un o'r cymdeithasau pwysicaf i ferched Cymru
Disgrifiad o'r llun, Oedd mam-gu Lowri wedi gweld yn y s锚r ei bod hi am ymddangos yn y gyfres Gwaith/Cartref rhyw ddydd?

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r t芒n ym mol Ian Gwyn Hughes, a'i gariad tuag at y wlad yn amlwg wedi cael ei basio i lawr iddo gan ei daid