Cyhoeddi cyfarwyddwr cerdd newydd Eisteddfod Llangollen

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi mai Vicky Yannoula fydd eu cyfarwyddwr cerdd newydd.

Ms Yannoula fydd wythfed cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod, a'r person cyntaf o Wlad Groeg i dderbyn y swydd.

Mae Ms Yannoula yn ymuno 芒 th卯m Eisteddfod Llangollen ar 么l gweithio gyda sefydliadau fel Trinity College Llundain, Prifysgol Middlesex ac Ymddiriedolaeth Drake Calleja.

Ers symud o Corfu i Lundain yn 1995 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, mae Ms Yannoula wedi ymddangos fel pianydd ar lwyfannau ar draws y byd ac wedi cyd-weithio ag ystod eang o artistiaid rhyngwladol.

'Lle arbennig iawn'

Dywedodd Ms Yannoula: "Cyn gynted ag y gwelais i'r swydd yn cael ei hysbysebu, fe ges i fy nenu ati.

"Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd ag Eisteddfod Llangollen gan fod ganddi le arbennig iawn yn y calendr cerddorol.

"Mae gwerthoedd craidd yr Eisteddfod a'i r么l fel dathliad amlddiwylliannol o heddwch yn ysbrydoliaeth i mi, felly mae cael fy mhenodi i ddilyn yn 么l traed sawl cyfarwyddwr cerdd talentog yn fraint enfawr."

Mae'r Eisteddfod yn gobeithio y bydd ei phrofiad "eang ac amrywiol" a'i chefndir rhyngwladol perthnasol yn cynnig "cyfle cyffrous" yn natblygiad y sefydliad.

Dywedodd cadeirydd yr 诺yl, Dr Rhys Davies: "Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd gan ddawn gerddorol Vicky i'w gynnig i'r 诺yl nesaf a sut y bydd ei phrofiad eang yn cryfhau presenoldeb yr Eisteddfod Ryngwladol ar y llwyfan rhyngwladol.

"Fe fydd ei chefndir trawiadol yn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn genedlaethol a rhyngwladol."