成人快手

Cystadlu teuluol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r awdur a'r actor Meilyr Si么n wedi cyhoeddi ei lyfr diweddara' i blant, Cysgod y Darian. Mae ei chwaer Eleri Si么n yn bob prynhawn ac yn cyflwyno rhaglenni cwis ar S4C. Yma maen nhw'n siarad am eu magwraeth a pherthynas y brawd a'r chwaer...

Ffynhonnell y llun, Eleri Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae Eleri yn dal i feddwl mai hi yw'r bos"

Magwraeth cefn gwlad

MEILYR - Cafon ni ein magu ar ffarm yn Neuadd Lwyd rhwng Ciliau Aeron ac Aberaeron. O'dd dim lot o arian 'da ni, ond o'n ni'n gyfoethog iawn yn ddiwylliedig. R'on ni'n cymryd rhan yn y steddfodau ac mewn cyngherddau. O'n ni'n mynd i'r Ysgol Sul, eisteddfodau lleol, sioeau 'da'r capel a dod 'mlaen o hynny. Ges i'n jobyn cynta' pan o'n i'n 11 yn lleisio cart诺n Peppino oedd wedi cael ei addasu i'r Gymraeg.

Ar y pryd, cyn dyfodiad S4C, o'dd pobl yn ymwneud mwy trwy bentrefi, neuaddau pentre', cymdeithasau, dram芒u ac mi o'n ni'n rhan o'r bywyd hynny. Roedd 'na 诺yl ddrama neu gystadlaethau yn digwydd yn y neuaddau pentre' ac oedd dy ddiwylliant Cymraeg di yn digwydd yn lleol.

ELERI - O'dd ein bywyd ni'n llawn iawn. Mae'r ddau ohono' ni'n gweithio'n galed ac mae'r ethos 'na wedi dod o adre' - o'dd Dad yn gweithio'n galed ofnadw', ar y ffarm ac yn yr Hufenfa yn Felinfach ac o'dd Mam wedyn yn ffarmo a hi oedd wastad yn mynd 芒 ni i wersi canu, adrodd, piano ac eisteddfodau. O'dd chwaraeon yn bwysig i fi hefyd, ac o'n i'n 'neud chwaraeon ar 么l ysgol ac ar y penwythnosau.

Collon ni Mam pan oedd Meilyr yn 16 oed a fi'n 18. Dwi'n gw'bod y bydde Mam yn teimlo mor falch i weld ni'n dau heddi', a meddwl bod yr holl oriau 'na o fynd 芒 ni i wrandawiadau pan o'n i'n blant, a rhoi'r cyfleoedd i ni, wedi arwain at ein gyrfaoedd ni heddi'. Mae Dad yn falch iawn ohonon ni hefyd, ond bydde' fe byth yn dweud hynny, byth yn ymffrostio!

'Diolch i Mam'

O'dd cymaint o gyfleoedd yn yr 1980au, ac mae'r diolch i Mam am wneud yr ymdrech i fynd 芒 ni i bob man. Pan oedd cynhyrchwyr yn dod ma's i'r ysgol i chwilio am dalent, o'n ni'n barod. O'n ni wedi cael yr hyfforddiant a'r hyder pan o'n ni'n blant wrth fynd i'r eisteddfodau a chystadlu.

Ffynhonnell y llun, Eleri Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Meilyr ac Eleri a'u gwobrau lu

Y'n ni'n dau yn gymdeithasol iawn, mae Meilyr a fi'n gallu siarad 芒 unrhyw un. D'yn ni ddim yn shei! Dwi'n credu ein bod ni'n ei ffeindio fe'n hawdd oherwydd y ffordd gethon ni ein magu. A dyna pam fi'n hoffi cyflwyno ar y radio, ma' amser i siarad 芒 phobl, mae cynhesrwydd.

'Wastad yn gefen i'n gilydd'

ELERI - O'n ni'n cwmpo ma's lot pan o'n ni'n iau, fel mae brawd a chwaer yn 'neud, ond o'n ni wastad yn gefen i'n gilydd. Os oedd unrhyw un yn gas neu'n pigo ar Meilyr yn yr ysgol, bydden i yna fel fflach! O'n i'n fiesty ac ma' bond cryf iawn rhyngddo' ni. Daeth y profiad o golli Mam mor ifanc 芒 ni'n agosach.

Wi'n cofio unwaith Mam yn gofyn i ni lanhau'r gegin a Meilyr yn pallu fy helpu i. Fe gydies i yng nghoes y brwsh llawr a'i daflu gan fwrw ei ddant e. O'dd rhaid iddo gael cap arno rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, fel 'na o'n ni fel brawd a chwaer!

MEILYR - Fy hoff atgof i o Eleri yn blentyn yw pan gwmpodd hi mewn i'r lle t芒n a llosgi ei nicyrs. O'dd hi'n ymarfer canu at rhyw gystadleuaeth, ac o'dd Mam yn gweud wrthi "cer n么l, ti'n rhy agos i'r piano" ac a'th hi'r holl ffordd n么l i gr芒t y t芒n a llosgi ei nicyrs. O'n i'n meddwl ei fod e'n hilarious achan!

Ffynhonnell y llun, Eleri Si么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Cw'mpo ma's fel ci a'r hwch'? Anodd credu!

MEILYR - Fi oedd y brawd bach, fi o'dd yn ei chael hi waetha' ac o'n ni'n cwmpo ma's fel ci a'r hwch. O'n ni ddim yn gystadleuol yn erbyn ein gilydd, ond fi'n credu o'dd brawd bach yn gallu mynd ar nerfau chwaer fawr. O'dd diddordebau hollol wahanol 'da ni, er ein bod ni'n 'neud y steddfodau 'da'n gilydd.

Dim ond unwaith fi'n cofio cystadlu gyda Eleri, canu deuawd a hi oedd yn rheoli'r tempo. Pan oedd angen dod off y nodyn yn ystod y ddeuawd o'dd hi'n pinsho fi, so o'n i'n gwbod bod rhaid i fi stopo canu!

Wedi gweud hyn mi o'dd Eleri yn ofalgar iawn, pan ddechreues i yn yr ysgol uwchradd o'dd hi fel bodyguard i fi. Os oedd unrhywun yn dechre arna i, yn rhoi trafferth i fi, bydde hi mewn 'na fel shot. O'dd hi'n berson ymfflamychol iawn, yn llawn egni.

'Closio wrth fynd yn henach'

Collon ni ein Mam pan o'dd hi'n 46 oed. Ti'n gorfod aeddfedu bryd 'ny wedyn. O'n i'n 'neud fy arholiadau TGAU a Eleri yn 'neud ei Lefel A. Gath hwnna effaith, a m'a hwnna'n mynd i ddod 芒'r uned yn agosach at ein gilydd achos y sefyllfa. Closion ni fel brawd a chwa'r bryd hynny ac fel teulu hefyd.

Ni wedi closio wrth fynd yn henach. Ma' rhywun yn tyfu lan, ma' pethe'n newid. Ni'n gweld ein gilydd lot nawr gan ein bod ni'n byw yn Y Barri. Mae fy mab hyna' i, Dan a mab Eleri, Alffi yn agos iawn. Ma' nhw'n cefnogi Spurs, ac yn dwli ar b锚l-droed! Fi'n prynu lot o anrhegion Spurs iddyn nhw i 'neud yn si诺r bo' nhw'n parhau i gefnogi.

Fe ges i Dan, wedyn cafodd Eleri Alffi a wedyn daeth Daisy. Mae'n brofiad anferthol i fagu plant, mae dy agweddau a gwerthoedd yn newid, felly ma' hwnna'n dod 芒 rhywun yn agosach.

Ffynhonnell y llun, Eleri Si么n

ELERI - Fi'n gw'bod fy mod i'n mynd ar nerfs Meilyr. 'Sdim angen y chwaer fowr arno fe nawr, ma' 'da fe deulu ei hunan, ond fi bob amser yn teimlo os na weda' i wrtho fe, bydd neb arall yn dweud wrtho fe, felly fi'n cynnig cyngor iddo fe pan dyw e ddim yn gofyn amdano!

Fi'n credu ein bod ni'n debyg. Ni'n dau yn gallu cynnu fel matsien, d'yn ni ddim yn bobl sy'n tynnu anadl a chyfri i dri cyn siarad! Mae Meilyr a fi'n debyg yn y ffordd r'yn ni'n edrych ar bethe', a'n agwedd ni at y dyfodol hefyd. Efallai achos gollon ni ein Mam yn ifanc, r'yn ni wedi meithrin yr agwedd ein bod ni moyn i bethe' fod yn iawn i'r dyfodol. Os bydde rhywbeth yn digwydd i fi tra mod i'n ifanc, fel ddigwyddodd i Mam, mae'n bwysig i fi feddwl y bydd y teulu'n iawn ac mae Meilyr yr un peth.

Fi mor browd o Meilyr. Natur bod yn actor yw dy fod ti mewn a ma's o waith ond mae Meilyr yn gallu codi'n y bore ac mae ganddo fe egni a hyder i feddwl, fi'n mynd i neud hyn. Mae e wedi mynd ati i 'sgwennu ar ei liwt ei hunan, ac yn meddwl am syniadau newydd trwy'r amser a wastad yn gofyn fy marn i.

Ni a'n teuluoedd yn bwriadu mynd ar wyliau gyda'n gilydd y flwyddyn nesa' am y tro cynta' erioed!

MEILYR - Eleri oedd y bos pan o'n ni'n tyfu lan, ac mae'n dal i gredu 'ny nawr!

Cysgod y Darian - Anturiaethau Ioan Arthur gan Meilyr Si么n (Gwasg Gomer) ar gael nawr

Hefyd o ddiddordeb: