Tirlithriad Ystalyfera: Rhagor o dai mewn ardal risg
- Cyhoeddwyd
Mae dros 50 o adeiladau ychwanegol yn rhan o "barth perygl uwch" yn ardal Pant Teg.
Daeth hynny i'r amlwg yn dilyn arolygon daearegol o'r ardal.
Fis diwethaf bu'n rhaid symud pobl o 10 o dai ar Heol Cyfyng yn dilyn tirlithriad.
Nawr mae 52 adeilad arall, gan gynnwys tai cyfagos a chapel, wedi cael eu dynodi yn rhai sydd o fewn y parth.
Ond mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi dweud na fydd mwy o bobl yn cael eu symud allan o'u tai am y tro fodd bynnag.
Cyfarfod cyhoeddus
Mae'r tai sydd yn rhan o'r "parth perygl uwch" yn cynnwys y rhai dros ffordd i'r rheiny yn Heol Cyfyng sydd eisoes wedi eu gwagio, ac eraill yn y cyffiniau i gyfeiriad Ystalyfera.
Ymysg y strydoedd sydd wedi eu heffeithio mae rhan fechan o Ffordd yr Eglwys, rhannau o Heol Cyfyng a rhannau o Graig y Merched.
Bydd yr adeiladau nawr yn cael eu hasesu'n unigol, ac mae'r cyngor wedi dweud y gallai'r risg gynyddu petai glaw trwm.
Ond dyw trigolion ddim wedi cael cyfarwyddyd i symud o'u cartrefi am nad oes tystiolaeth o fygythiad gwirioneddol i fywydau.
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Iau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn esbonio'r mapiau newydd sydd yn dangos yr arolygon.
Dywedodd Nicola Pearce, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y cyngor: "Dyw lleoliad yr adeiladau o fewn y parth perygl uwch ddim o reidrwydd yn golygu y byddwn ni'n cymryd camau pellach i symud rhagor o drigolion o'u cartrefi.
"Byddwn ni'n gweithredu yn unol 芒'r cyngor sy'n cael ei roi yn yr asesiad risg sy'n cael ei gyfeirio ato yn y diweddariad ."
Yn sgil y tirlithriad ym mis Awst mae un o gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi galw am help ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddelio 芒'r digwyddiad.
Mae'r cyngor wedi dweud y gallai'r perchnogion tai, sydd eisoes wedi symud, ddychwelyd i'w cartrefi os bydd arolwg yn dangos eu bod yn ddiogel.