成人快手

Tirlithriad: 'Gallai perchnogion ddychwelyd i'w tai'

  • Cyhoeddwyd
Ystalyfera

Fe allai perchnogion tai ar stryd yn Sir Castell-nedd Port Talbot ddychwelyd i'w cartrefi os bydd arolwg yn dangos eu bod yn ddiogel, medd y cyngor.

Bu'n rhaid i tua 20 o bobl adael Heol Cyfyng yn Ystalyfera fis diwethaf, oherwydd bygythiad gwirioneddol i'w diogelwch.

Mae perchnogion wedi derbyn hysbysiadau yn gofyn iddyn nhw fynd i'r afael 芒 rhai peryglon yn ymwneud 芒'u tai.

Roedd hyn yn cynnyws atgyweirio systemau carthffosiaeth a gwahanu gweddill eu gerddi o'r dibyn islaw.

Petai hyn yn cael ei wneud, mae'n bosib y gallai pobl ddychwelyd i'w cartrefi, ond dim ond os yw'n bosib sefydlogi'r tai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o dirlithriadau wedi digwydd yn yr ardal yn y gorffennol

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot nad oedd nifer o'r tai wedi eu cysylltu 芒'r system garthffosiaeth bellach, oedd yn golygu fod gwastraff yn gollwng i gamlas gyfagos.

Mae tai eraill wedi colli mwyafrif eu cerddi cefn oherwydd tirlithriadau, gan olygu nad oes llawer o fwlch rhwng y tai a'r dibyn.

Ychwanegodd y datganiad: "Fe gawson nhw [y perchnogion] eu cynghori y gallen nhw symud yn 么l i'w cartrefi petaen nhw'n mynd i'r afael 芒'r peryglon a gafodd eu nodi yn yr hysbysiadau gorfodol.

"Serch hynny, os bydd adroddiadau daeareg technegol yn nodi nad oes modd diogeli'r tai, yna mae'n annhebyg y byddan nhw'n cael dychwelyd, a bydd yn rhaid i'r cyngor felly ystyried y cam gweithredu priodol ar gyfer y stryd.

Gorchmynion dymchwel

Mae yna botensial y bydd y cyngor yn cyhoeddi gorchmynion dymchwel ar gyfer yr adeiladau lle mae'r perygl yn parhau. Dydy'r cyngor ddim yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd."

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi gadael eu cartrefi wedi symud i lety arall, gyda dim ond un teulu yn byw mewn llety brys.

Yn y gorffennol, mae'r cyngor wedi dweud y gallai tirlithriad effeithio ar 150 o dai yn yr ardal ac y gallai gostio miloedd o bunnoedd petai angen eu prynu'n orfodol a'u dymchwel.

Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod y wybodaeth a'r sefyllfa ddiweddaraf yn cael ei gynnal yn Ysgol Ystalyfera ar 7 Medi.