成人快手

Graffiti Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Celfyddyd gain? Llais y bobl? Cyfle i fynegi barn? Neu fandaliaeth pur?

Mae'n si诺r fod pob un o'r rhain yn ddisgrifiad teg a chywir am graffiti, ond fel roedd Anweledig yn canu yn 2001, "Os 'da chi'sho g'neud graffiti... gwnewch graffiti Cymraeg" - ac mae'n debyg fod artistiaid ar draws Cymru wedi gwrando ar y cyngor yna - rhai yn fwy celfydd na'i gilydd efallai.

Un o'r rhai enwocaf - cafodd ei baentio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion yn yr 1960au. Dros y blynyddoedd, mae wedi cael ei ail-baentio nifer o weithiau oherwydd fandaliaeth, ond mae'n parhau yn olygfa eiconig ar y siwrne rhwng Aberteifi ac Aberystwyth.

Ffynhonnell y llun, Gareth Lewis

Darn o graffiti toiled traddodiadol nawr... yn nhoiledau Llanbrynmair... neu o bosib Caernarfon, dyw'r person wnaeth dynnu'r llun 20 mlynedd yn 么l ddim yn cofio'n iawn.

Ffynhonnell y llun, Catrin Newman

Tynnu sylw haeddiannol at ddiffygion dwyieithrwydd yn Abertawe, neu fandaleiddio darn o gelf gyhoeddus?

Trafodwch.

Mae'r deyrnged yma i Frenin Roc a R么l i'w gweld ar yr A44 ger Eisteddfa Gurig, rhyw 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth - er mae'n debyg mai 'Elis' oedd yn ei ddweud yn wreiddiol, ar 么l y llenor Islwyn Ffowc Elis.

Yn ddiweddar, cafodd darlun o'r ffordd a'r graig enwog gan yr artist Wynne Melville Jones ei gyflwyno i arddangosfa yng nghartref y canwr yn Graceland.

Ffynhonnell y llun, Iwan Ellis-Roberts

Darn o graffiti yng Nghaernarfon sydd yn cofnodi un o ddywediadau naturiol y dref. Yn anffodus, mae rhai eraill na allwn eu dangos mewn fforwm cyhoeddus fel hwn.

Ffynhonnell y llun, Aled Hughes

Aled Hughes, cyflwynydd 成人快手 Radio Cymru ddaeth ar draws y geiriau nerthol yma ar wal llechi yn Llanberis.

Mae'r arwydd yma ger Mallwyd yng Nghanolbarth Cymru yn gosod cwestiwn ddifyr... ond pwy yw Nia, ac oedd hi'n si诺r?

Mi fyddai'n braf cael gwybod... rhywbryd.