Tat诺 i ddelio 芒 galar
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips ei fam yn sydyn i ganser ddwy flynedd yn 么l, a bu farw ei dad pan oedd yn 23 oed. I'w helpu i ddelio 芒'r galar ac i gofio am ei rieni, mae wedi cael tat诺 sy'n golygu llawer iddo.
Bu'n siarad gyda Rebecca Hayes ar raglen Bore Cothi ar 成人快手 Radio Cymru ddydd Mawrth, 22 Awst:
O'n i byth yn meddwl y bydden i'n cael tat诺 a fi wedi mynd am un mawr! Sleeve ma' nhw'n ei alw fe, dyma'r tat诺 cyntaf.
O'dd pobl yn meddwl mai rhywbeth bach fydde fe, jyst ar yr arddwrn neu rhywbeth, ond fi wedi dechre reit ar y top ar fy ysgwydd a mae bron 芒 bod yn cyrraedd fy llaw. Mae dal tamed bach i orffen.
Mae 'na angel, croes, rhosyn, adar, dwy golomen, cloc - arwyddoc芒d y cloc yw'r amser ges i 'ngeni am chwarter i chwech y bore, a dwy law yn gwedd茂o.
Cofio fy rhieni
Mae'r holl beth yn ymwneud 芒 choff谩u fy rhieni. Wnes i golli Dad pan o'n i'n 23 oed a wedyn fe wnes i golli Mam tua dwy flynedd yn 么l yn sydyn trwy ganser. Ac o'n i'n meddwl mae angen 'neud rhywbeth i gofio amdanyn nhw, jyst i fi yn bersonol.
Mae pobl yn cofio am bethe fel 'na mewn ffyrdd gwahanol, ac o'n i'n meddwl beth am dat诺 fydd wastad yna, yn golygu rhywbeth. Mae'n eitha' emosiynol, ond mae'n neis bod yr holl elfennau 'ma i gyd yna.
Mae'r ddwy law yn erfyn yn ymwneud 芒'r ffaith oedd Dad yn bregethwr, o'n i wastad yn gwylio fe yn y pulpud pan o'n i'n tyfu lan, a falle taw dyna pam fi wedi mynd mewn i gyflwyno, siarad yn gyhoeddus a bod ar lwyfan, felly ma' 'na elfennau crefyddol yna, ac elfennau ysbrydol, emosiynol hefyd. Mae e wedi helpu [gyda'r galar].
Mae'r symboliaeth yn golygu eu bod nhw wastad yna, yr angylion. Allai wastad edrych lawr ar y gwaith celf a ma' nhw fan 'na.
Fe wnes i drafod n么l a mlaen gyda'r artist Baz, trafod ble i gael [y tat诺], o'n i'n meddwl cael rhywbeth bach tu fewn i'r fraich, a wedodd e 'paid 芒 dechre fan 'na achos mae'n boenus iawn fan 'na'.
Mwy a mwy o'n ni'n trafod wnes i feddwl falle taw sleeve fydd hwn. O'n i byth yn meddwl y bydden i'n cael un tat诺, heb s么n am lenwi'r fraich gyda'r un cynta'.
Fe wnaethon ni drafod y math o ddelweddau, y symboliaeth o'n i'n moyn, ac o'dd e'n ymchwilio i mewn i'r math o luniau ac ati, taflu syniadau n么l a mlaen a bookio y sesiwn cyntaf a wedyn doedd dim troi n么l!
'Mae'r boen off y scale!'
Rwy' wedi cael tri sesiwn o saith awr, ac mae un sesiwn ar 么l. Ti'n eistedd yna trwy'r dydd bron. O'n i ddim yn gwbod pa fath o boen o'dd e'n mynd i fod. O'dd rhai pobl yn disgrifio gwres, rhai'n dweud crafu, mae e fel crafu croen ar 么l llosgi yn yr haul. Mae'n bump mas o ddeg o boen cyson. Ond wedyn, ar y penelin, ar yr asgwrn, fi erio'd 'di teimlo mor boenus, off y scale!
Ma' 'na elfen o addiction bysen i'n dweud ar hyn o bryd, fi jyst yn aros ar y fraich 'ma, ond falle gaf i dat诺 o bennill Cymraeg. Dim 'Meganomeg'! Ond 'Dwy law yn erfyn', ni wedi trafod hynny.
Cefnogaeth
O'n i'n poeni am roi e mas 'na ar Facebook a Twitter, achos o'n i ddim yn gwybod beth fydde pobl yn meddwl ond mae lot wedi dweud mae'n anhygoel, ma' nhw'n deall y rhesymau, mae lot yn canmol fi am y rhesymau, o'dd hwnna'n neis o'n i'n cael bach o gryfder gan hwnna 'fyd a chefnogaeth gan ffrindiau.
Tua 20 mlynedd n么l o'dd pobl yn poeni am roi swydd i rywun gyda tat诺. Ma' amser 'di newid. Ma' nhw yn fwy amlwg, ma' lot fwy o bobl gyda tat诺s nawr a fi'n credu bod yr oes wedi newid. Dyw e ddim fel bo' fi wedi cael SpongeBob SquarePants ar fy mhen i yn Magaluf!
Ma' 'na reswm, ma' 'na emosiwn, ma' 'na deimladau tu n么l hwn.