Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun eog a brithyll yn 'cosbi' pysgotwyr Cymru
Mae pysgotwyr wedi dweud eu bod yn cael eu cosbi'n annheg gan gynigion sy'n ceisio atal y cwymp mewn niferoedd eog a brithyll yn afonydd Cymru.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori i geisio deall sut i gynyddu niferoedd, wedi rhybudd bod lefelau'n is nac erioed.
Mae cynlluniau CNC yn cynnwys gorfodi pysgotwyr i ryddhau pysgod yn 么l i'r d诺r.
Ond mae'r Ymddiriedolaeth Bysgota yn dweud mai'r gwir broblem yw llygredd amaethyddol.
Yn 么l yr asesiad blynyddol diweddaraf, mae 21 o'r 23 o afonydd eog mewn perygl o beidio 芒 chyrraedd targed o nifer y pysgod.
Mae 21 o 33 o afonydd brithyll y m么r yn cael eu disgrifio fel rhai bregus.
'Problem fwy'
Yn 2014 fe wnaeth CNC annog pysgotwyr i ryddhau mwy o'r pysgod yr oedden nhw'n eu dal, ond mae'r corff wedi cymryd cam ymlaen gyda'r cyngor diweddaraf.
Mae hefyd cynigion i gyflwyno uchafswm ar faint o bysgod sy'n cael eu dal, a chyfyngu ar y math o abwyd sy'n cael ei ddefnyddio.
Dywedodd Mark Lloyd o'r Ymddiriedolaeth Bysgota ei fod yn falch bod CNC yn ymchwilio i'r cwymp mewn niferoedd, ond nad oedd o blaid cyfyngu ar faint sy'n cael eu dal.
"Mae angen am daclo'r broblem fwy, sef llygredd, yn enwedig o amaeth ond hefyd coedwigaeth a charthffosiaeth," meddai.
"Mae pysgotwyr yn lladd rhai cannoedd o bysgod ar draws Cymru. Ond mae miloedd o bysgod yn cael eu lladd gan slyri a gwaddodion a phlaladdwyr o'r tir."
Ychwanegodd y byddai pysgotwyr yng Nghymru yn teithio dros y ffin neu dramor i bysgota, os oes gormod o reoliadau.
Mae pysgodfeydd werth tua 拢150m i economi Cymru bob blwyddyn, ac maen nhw'n cefnogi tua 1,500 o swyddi.
Dywedodd Ceri Davies o CNC: "Mae'r cwymp yn nifer yr eog a'r brithyll m么r sy'n mudo yn 么l i'n hafonydd bellach mor ddifrifol bod angen i ni roi mwy o gyfle i bysgod atgenhedlu os ydyn ni am sicrhau bodolaeth y pysgod mewn afonydd yng Nghymru."