Gwleidyddion yn annog trafod datganoli darlledu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru yn galw am drafod datganoli darlledu fel rhan o adolygiad o S4C.
Mewn llythyr agored, mae'r gwleidyddion yn dweud bod y system bresennol o ran darlledu "yn methu" a bod angen "trafodaeth fanwl" am ddatganoli'r maes.
Daw'r alwad cyn i Swyddfa Cymru amlinellu rhagor o fanylion ar gyfer adolygiad o'r sianel yn yr Eisteddfod ddydd Llun.
Dywedodd S4C eu bod yn croesawu'r "gefnogaeth a diddordeb trawsbleidiol yn nyfodol y gwasanaeth".
Ysgrifennu at Lywodraeth y DU
Mae'r llythyr agored at Karen Bradley - ysgrifennydd diwylliant Llywodraeth y DU - wedi ei arwyddo gan 15 o wleidyddion.
Ymysg y rheiny mae'r ACau Llafur, Eluned Morgan a Jeremy Miles, a nifer o ASau ac ACau Plaid Cymru, gan gynnwys yr arweinydd, Leanne Wood.
Mae'r llythyr yn beirniadu toriadau i gyllideb S4C, y "cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru" a llai o Gymraeg ar radio lleol.
Mae hefyd yn condemnio lefel y buddsoddiad yng Nghymru gan y 成人快手, gan ddweud nad ydy cyhoeddiadau diweddar am gyllid ychwanegol yn "dadwneud" toriadau blaenorol i gyllid 成人快手 Cymru.
I gloi, mae'r llythyr yn dweud: "Gwyddom fod nifer o faterion ymarferol y bydd angen eu hystyried wrth ddatganoli darlledu, a chredwn fod adolygiad S4C yn cynnig cyfle euraidd i gael y drafodaeth fanwl honno."
Fe fydd gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yn datgelu mwy o fanylion am yr adolygiad annibynnol o S4C mewn anerchiad ar stondin y sianel yn yr Eisteddfod ddydd Llun.
Bwriad yr adolygiad fydd edrych eto ar beth yw bwriad S4C fel darlledwr, yn ogystal 芒'r drefn o ariannu a llywodraethu'r sianel.
'Croesawu' cefnogaeth trawsbleidiol
Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod y sianel yn "edrych ymlaen i gyflwyno tystiolaeth i'r adolygiad annibynnol".
"Bydd yn gyfle arbennig i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw S4C i ddiwylliant ac economi Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg," meddai.
Gan gyfeirio at y llythyr, ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn croesawu'r ffaith fod yna gefnogaeth a diddordeb trawsbleidiol yn nyfodol y gwasanaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2017
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017