Cynefin Hedd Wyn mewn 360掳
- Cyhoeddwyd
Ar ganmlwyddiant ei farwolaeth, dyma deyrnged arbennig i'r bardd Hedd Wyn gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, chwech wythnos cyn i'w gerdd, Yr Arwr, ennill Cadair yr Eisteddfod.
Bu farw Hedd Wyn ymhell o adre', ar 31 Gorffennaf 1917, yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond golygfeydd godidog ei gynefin sy'n serennu yn y fideo yma sy'n defnyddio'r technolegau ffilm diweddaraf i dalu teyrnged i'r bardd a'r tirwedd a'i ysbrydolodd.
Trwy ddefnyddio dulliau sain arloesol a lluniau 360掳 trawiadol, mae'n mynd 芒'r gwyliwr yn syth i lethrau'r mynyddoedd lle troediodd Hedd Wyn. Mae'r llonyddwch a phrydferthwch byd natur, oedd yn rhan mor annatod o waith y bardd, yn cyferbynnu'n llwyr gydag erchyllter maes y gad lle bu farw.
Mae'r fideo'n seiliedig ar un o gerddi mwyaf adnabyddus Cymru, sef 'Englynion Coffa Hedd Wyn' gan R Williams Parry. Ac mae dau o s锚r presennol Cymru wedi cyfrannu at y darn hefyd. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn arbennig gan Cian Ciar谩n o'r Super Furry Animals a'r actor Julian Lewis Jones sy'n darllen y farddoniaeth.
Mae'r ffilm wedi ei chynllunio i gael ei gwylio drwy benwisg rhith wirionedd (VR) a chlustffonau, ond mae'n gweithio ar unrhyw ddyfais. Symudwch eich ff么n, neu lusgwch y llygoden i edrych o gwmpas. Trowch y sain ymlaen i gael y profiad gorau.
Bydd cyfle hefyd i wylio'r ffilm ym mhabell 成人快手 Cymru Wales yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n rhwng 4-12 Awst.
Pwy oedd Hedd Wyn?
Hedd Wyn oedd enw barddol y bugail o Drawsfynydd, Ellis Humphrey Evans. Ar 么l bwrw ei brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol, rhoddodd ei fryd ar ennill Cadair Penbedw (Birkenhead) ym 1917.
Beth ddigwyddodd iddo?
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth a rhoddwyd pwysau ar ffermwyr Cymru i anfon eu meibion i faes y frwydr. Gan mai Ellis oedd yr hynaf o feibion fferm Yr Ysgwrn, fe ymunodd 芒 Phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac fe'i hanfonwyd i'r ffosydd yn Ffrainc.
Sut ddaeth e'n ffigwr eiconig?
Gorffennodd ysgrifennu cerdd Yr Arwr ar y ffordd i Fflandrys. Fe'i hanfonodd o'r ffosydd dan y ffug enw Fleur-de-Lis. Pan gyhoeddwyd enw'r bardd buddugol o lwyfan yr Eisteddfod bu distawrwydd llethol. Roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos ynghynt a daeth 'Bardd y Gadair Ddu' yn symbol o golled a galar y genedl.
EWCH I'R ADRODDIAD ARBENNIG YMA I DDARGANFOD MWY AM FYWYD HEDD WYN
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd26 Mai 2017