Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgwr y Flwyddyn 2017: Adnabod Daniela Schlick
Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.
O Borthaethwy y daw Daniela Schlick.
Pwy wnaeth dy berswadio/ysbrydoli i siarad Cymraeg?
Cymru, Cymry Cymraeg a hanes Cymru. Mi syrthies i mewn cariad 芒 Chymru a'r iaith. Ac wrth gwrs, mae Elwyn Hughes, fy nhiwtor, yn ysbrydoliaeth enfawr.
Oes digon o help ar gael?
Oes. Mae Elwyn, fy nhiwtor, t卯m Canolfan Cymraeg i Oedolion ym Mangor a fy ffrindiau Cymraeg yn hapus iawn i helpu pryd bynnag ac efo popeth.
Beth fyddai'n helpu ti fel dysgwr?
Dim byd mwy. Rydw i'n cael popeth dwi isio.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Dau air, a bod yn onest. "Awel", achos mae'r gair yn swnio mor hyfryd ac achos mae'n golygu mwy na "breeze". Teimlad ydy awel a chysur.
Yr ail air ydy "Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch", achos mae o mor hilarious. Ac mae'r pentref drwy nesa' i Borthaethwy lle dw i'n byw.
Beth am y gair mwyaf anodd i'w ddysgu?
Ymddiriedolaeth. Mae ystyr y gair yn dda iawn, ond am anodd!
Beth sydd fwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?
Penderfynu pryd defnyddio hyn, hynny (neu hwn, hon ac ati). Rydw i'n cael trafferth efo this a that yn Saesneg hefyd, achos mae hynny (?) yn wahanol i fy mamiaith, sef Almaeneg.
Un gair i ddisgrifio treigladau?
Her.
Sut mae sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Ein pobl ifanc. Mae'n dechrau 'da cychwyn yn yr ysgolion, ond mae angen mwy o gyfleoedd i'r disgyblion siarad a byw y Gymraeg tu allan o'r ysgol.
Hefyd mae angen mwy o adloniant Cymraeg ar gyfer pobl ifanc - cyngherddau, theatr, sinema, rhaglenni teledu, rhaglenni ar y radio, yn enwedig ar y teledu ac ar y radio.
Mae 'na gymaint o raglenni ar gyfer plant ac wedyn i oedolion, ond dim byd, dim llawer, ar gyfer pobl yn eu harddegau.
Rydw i'n meddwl mai dyma ydy'r oedran sy'n colli Cymraeg yn ei bywyd cymdeithasol.
Hefyd rydw i'n meddwl bod angen cynnwys y rhieni di-Gymraeg i gael mwy o Gymraeg adre. Ac mi geith y plant helpu eu rhieni.
O ran dysgwyr, rydw i'n meddwl bod angen codi hyder siarad. I wneud hyn mae angen mwy o Gymry Cymraeg efo digon o amynedd i siarad efo dysgwyr a derbyn dysgwyr fel siaradwyr Cymraeg - siaradwyr sy' isio help, ond fel siaradwyr.
Petaech yn cael eich dewis yn ddysgwr y flwyddyn, mi fyddwch yn cael ymuno gyda'r Orsedd- beth fyddech chi'n dewis fel enw?
Does gen i ddim syniad eto a bod yn onest. Mi fydda i'n meddwl am enw neis, os bydda i'n ennill y gystadleuaeth.
And one in English
How would you go about persuading others to learn Welsh?
First of all: Don't panic and don't worry. It's just a language and it doesn't hurt. Take as much time as you need. It's important to start and continue. It'll come. Mi ddaw.
From my point of view and my experience I can say that once you start a whole new world will open up.
Peoples faces will lighten up, doors to the Welsh culture will open up - a rich culture full of music, poetry and lovely people.
With every word I learn I understand and feel people's mentality a little better. Eventually, Cymraeg becomes more than just a language in the most positive way you can imagine.