Comedi Cymraeg yn ffynnu!

Geth Robyns, un o'r rhai fydd yn gwneud i Gymry chwerthin yn ystod y Steddfod eleni, sy'n s么n wrth Cymru Fyw am ei brofiad o wneud stand-yp Cymraeg, a'r hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau set llwyddiannus:

Ffynhonnell y llun, Geth Robyns

Peter Kay, Michael McIntyre a Lee Evans yw rhai o'r enwau adnabyddus sy'n llwyddo i ennill eu bara menyn fel comed茂wyr a sydd fwya' cyfarwydd ar y teledu. Ond pwy yw comed茂wyr stand-yp Cymru?

Falle fasai rhai yn enwi Rhod Gilbert neu Rob Brydon; y Cymry o bosib yn enwi Tudur Owen neu Daniel Glyn, sydd i'w gweld yn aml ar S4C. Ond oeddech chi'n gwybod fod comedi stand-yp yn Gymraeg, ar lawr gwlad, yn ffynnu(!)?

Ond pa mor anodd yw hi?

Y peth cynta' sydd rhaid i unrhyw gomed茂wr werth ei halen ei gael ydy deunydd doniol a gyts! Mae'r llwyfan yn gallu bod yn lle unig iawn os nad oes 'na ymateb gan y gynulleidfa, felly mae angen paratoi.

Mae comed茂wyr gwahanol yn ysgrifennu ar ffurf gwahanol, a iaith a steil gwahanol gan bawb. Rhai yn neilltuo amser penodol i eistedd i lawr o flaen desg efo gliniadur ac yn mynd ati i ysgrifennu, eraill yn cario llyfr bach nodiadau efo nhw i nodi unrhyw beth doniol sy'n codi'n ddi-rybudd. Yn bersonol, rydw i yn un sydd yn meddwl am bethau tra'n gorwedd yn fy ngwely cyn cysgu; profiadau a chymeriadau sy'n ei chael hi yn fy set stand-yp i, er bod j么cs am chwyrnu'r wraig yn demtasiwn!

Ffynhonnell y llun, Cau dy geg

Disgrifiad o'r llun, Mae Stifyn Parri ar y Maes eleni gyda'i sioe gomedi un dyn hynod lwyddiannus, Cau dy Geg

Ar 么l cael y deunydd doniol sydd yn mynd i 'neud i bawb chwerthin, y cam nesaf ydy cael gig. Yma yng Nghymru does dim llawer o leoliadau yn cynnal nosweithiau comedi parhaol, ac mae angen ariannu'r noson a denu comed茂wyr a chynulleidfa i greu noson lwyddiannus! Tafarndai, clybiau theatrau a gwyliau sydd yn cynnig lle ar y llwyfan rhan amlaf er mod i wedi perfformio mewn pabell cyn heddiw.

Dwi wedi perfformio mewn nosweithiau 'stand-yp' gyda'r lle o dan ei sang, 芒 phawb (y comed茂wyr a'r gynulleidfa) wedi cael modd i fyw - a dwi hefyd wedi perfformio o flaen tri pherson (a dau o'r rheiny ddim hyd yn oed yn ymwybodol fod yna noson gomedi ymlaen o gwbl...!). Yn amlwg mae llwyddiant noson gomedi yn dibynnu ar y gynulleidfa, a'r peth pwysica' yn hyn i gyd ydy fod pobl wedi dod allan i fwynhau. Yn amlwg, mae disgwyl i'r comed茂wr fod yn ddoniol a gwneud i'r gynulleidfa chwerthin, ond mae hyn yn wir am gomedi mewn unrhyw iaith.

Comedi yn gweithio yng Nghymru?

Mae pobl bendant yn synnu eu bod yn mwynhau stand-yp Cymraeg gymaint. Sawl gwaith dwi wedi clywed pobl yn y gynulleidfa wedi mwynhau gan ddweud "Doeddwn i ddim yn disgwyl stand-yp felna, oeddwn i yn poeni mai rhyw hen j么cs 'Noson Lawen' fasa fo!"

Oherwydd fod Cymru yn wlad mor fach, pawb yn 'nabod pawb, mae 'na ormod o ofn pechu rhywun - ond yn fy marn i - tyff! Yn wir, cyn heddiw dwi 'di gwneud hwyl am berson hollol dychmygol ar y llwyfan, a rhywun yn dod ata'i ar 么l y gig i ddweud ei fod yn 'nabod y person yna ac am ddweud pob dim wrtho y tro nesa oedd o'n ei weld! Felly waeth i ti fynd amdani. Ac wrth gwrs mae gwneud hwyl am bentref/ardal/dref benodol wastad yn ymddangos yn aml mewn setiau stand-yp - ond nid mewn ffordd blwyfol, ond yn hytrach er mwyn lledaenu gwybodaeth am y man 'anffodus' yna!

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Tudur Owen sioe lwyfan arbennig yn y Pafiliwn nos Fawrth y Steddfod, ac yn trafod 'Beth sy'n ddoniol' gyda phanel yn y Babell L锚n brynhawn Sadwrn 5 Awst

Digon o jocian ar y Maes

Eleni mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi dipyn o sylw i gomedi Cymraeg ar y Maes, ac hefyd mewn tafarndai lleol yn ystod yr wythnos. Dwi'n mawr obeithio 'neith pobl heidio i Fodedern i weld talent Cymru ar ei orau gan fod 'na amrywiaeth o gomed茂wyr o bob oed yno i'ch diddanu.

Ac wedyn, ar 么l i chi gael blas arno fo, gallwch fynd allan i gefnogi'r comed茂wyr Cymraeg ar draws Cymru - rhowch gyfle i gomedi Cymraeg. Neu well byth, ewch amdani eich hun, efallai mai chi fydd y Peter Kay neu'r Tudur Owen nesa'?!

Bydd Geth yn cynnal sesiwn stand-yp gyda Karen Sherrard yng Nghaffi Maes B am 14.30 Ddydd Mawrth. Bydd digwyddiadau comedi yn cael eu cynnal ar draws y Maes yn ystod yr wythnos fel rhan o'r .