成人快手

Llyfr llafar Cymraeg yn ennill gwobr ryngwladol

  • Cyhoeddwyd
Gruffudd Antur a Hanna Jarman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y prifardd Gruffudd Antur wnaeth addasu'r llyfr i'r Gymraeg, a'r actores Hanna Jarman sydd wedi'i leisio

Mae llyfr llafar Cymraeg wedi ennill gwobr yn seremoni Rhaglenni Radio Gorau'r Byd yn Efrog Newydd.

Cafodd t卯m trawsgrifio RNIB Cymru ei gydnabod ymhlith ceisiadau o fwy na 30 o wledydd gyda fersiwn Gymraeg llyfr llafar 'Cyfrinach Nana Crwca'.

Fe wnaeth y llyfr - fersiwn Gymraeg o 'Gangsta Granny' gan y digrifwr David Walliams - ennill y Wobr Radio Efydd yng nghategori Lleisio Gorau - Unigol.

Cafodd y seremoni ei chynnal yng ngwesty'r Manhattan Penthouse yn Efrog Newydd nos Lun.

Dyma'r tro cyntaf i lyfr llafar Cymraeg gael ei gydnabod yn yr 诺yl.

Dywedodd rheolwr trawsgrifio RNIB Cymru, Emma Jones ei bod yn "anhygoel dod i'r brig mewn cystadleuaeth mor bwysig".

"Cawsom wahoddiad i gyflwyno cais, felly es i ati i wrando ar sawl un o'n llyfrau llafar er mwyn dewis y gorau, a 'Cyfrinach Nana Crwca' gan David Walliams oedd hwnnw yn fy marn i," meddai.

"Mae llyfrau llafar fel hyn yn hollbwysig. Maen nhw'n sicrhau bod plant sydd wedi colli'u golwg yn gallu darllen llyfrau cyfoes fel pob plentyn arall."

'Er mwyn fy chwaer'

Y prifardd Gruffudd Antur fu'n gyfrifol am addasu'r llyfr i'r Gymraeg, a'r actores Hanna Jarman sydd wedi'i leisio.

"Roeddwn i wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i ddarllen Cyfrinach Nana Crwca," meddai Ms Jarman.

"Fe ges i lawer o hwyl, a dwi mor falch ei fod wedi ennill.

"Ma'r gwaith Llyfrau Llafar mae'r RNIB yn gyflawni yn hynod o werthfawr - dwi'n gwybod hynny o brofiad, oherwydd fod Mared fy chwaer yn gwrando arnynt pan oedd hi'n blentyn. Pan ddechreuodd golwg Mared ddirywio, cafodd hi lawer o gysur, ei bod hi dal yn gallu mwynhau a gwerthfawrogi llyfrau Cymraeg."