成人快手

O'r Steddfod i Sgandinafia

  • Cyhoeddwyd
Paul

Mae Paul Hughes yn wyneb cyfarwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Ynghyd 芒 Dewi Griffiths mae 'Paul Corn' yn un o'r rhai sydd yn canu'r corn i dywys enillwyr y prif seremon茂au i'r llwyfan.

Ond fel , mae'n symud i fyw i ardal Hordalan yn ne Bergen yng ngorllewin Norwy.

Mae Paul yn gobeithio y bydd y gefnogaeth yn gwella yng Nghymru er mwyn denu mwy o bobl ifanc i fyd y bandiau pres.

  • Mwy o

Symud i Norwy

Dwi wedi bod n么l a 'mlaen o Norwy ers dros ddeng mlynedd r诺an, ac wedi gwneud ffrindiau yno, fel mae pobl byd y bandiau.

Ges i fy ngwahodd i wneud ychydig bach o waith gydag ambell i fand, ac mae hwnna wedi datblygu dros y blynyddoedd i wneud mwy a dwi wedi bod yn mynd yno rhyw dair gwaith y flwyddyn dros y tair blynedd ddiwethaf. Wedyn mi wnes y penderfyniad mod i am symud i Norwy i fyw ac i weithio.

Ym mhob cymuned yn fan'na mae yna rhyw fath o fand. Fe all fod yn fand chwyth neu yn fand pres. Mae'r diwylliant bandiau yn gryf yn Norwy ers tua 1970, pan ddechreuodd y bandiau pres yno - er roedd yna fandiau yno cyn hynny wrth gwrs.

Mae'r traddodiad wedi tyfu dros y blynyddoedd ac maen nhw wedi defnyddio Prydain fel y blueprint o sut dylai bandiau fod, ac maen nhw wedi ein dal ni fyny erbyn hyn.

Mae ganddyn nhw fforwm broffesiynol sy'n edrych ar 么l y bandiau pres, sydd gennym ni ddim yn fan hyn, felly maen nhw'n fymryn yn fwy proffesiynol yn fan acw.

Dwi'n symud i ardal yr ynysoedd tua dwy awr i'r de o Bergen yng ngorllewin Norwy. O'n i wedi bod yn meddwl am y peth ers dros ddwy flynedd.

Ges i gynnig gwaith yno deng mlynedd yn 么l, a dwi 'di bod yn pendroni 'petawn i wedi cymryd y cyfle i fynd, be' fysa wedi digwydd?' Ond dwi mewn pwynt r诺an yn 44 oed lle mae gen i 20 mlynedd i weithio, waeth i mi wneud o'n rhwla lle dwi wir yn mwynhau fy hun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paul (ar y dde) a Dewi Griffiths ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae naw mlynedd gyda Seindorf Arian Llanrug wedi bod yn waith caled, ond ar y llaw arall mae wedi bod yn bleserus hefyd.

Dwi wedi bod yn hynod o lwcus dros y blynyddoedd i gael y cefnogaeth gan y band, ac mae wedi bod yn wir bleser i gael eu harwain nhw.

Dwi 'di bod yn lwcus iawn mod i 'di cael free reign i gael gwneud y penderfyniadau cerddorol fy hun a trio arwain y band yn y ffordd orau dwi'n meddwl.

Dwi wedi cael gweithio efo lot o bobl ifanc a dwi 'di cael lot o bleser yn gweld nhw'n datblygu, a dwi'n falch iawn i ddweud eu bod nhw'n mynd i'r National Finals yn Cheltenham ym mis Medi, ond yn anffodus bydda i wedi symud i Norwy erbyn hynny felly bydd rhywun arall yn eu harwain nhw yn y gystadleuaeth.

Ond dwi'n falch 'mod i wedi gallu helpu nhw gyrraedd y pwynt yna - mae'n amser cyffrous iawn i'r band! Dwi'n gobeithio alla i wneud y daith i'w clywed nhw a'u cefnogi nhw ar y diwrnod.

Gwersi i Gymru a'r Eisteddfod

Y peth mwya' dwi'n teimlo ydy bod yna werth yn y gwaith mae rhywun yn gwneud yn Norwy, ac mae pobl yn diolch yn y ffordd cywir. Yng Nghymru mae o lot i'w wneud efo ewyllys da - ac mae 'na lot o bobl yn gwneud pethau gwych yng Nghymru. Ond does 'na ddim llawer o ddiolch am hyn tu allan i'r gymuned yna.

Dwi'n meddwl fysa fo'n syniad da, yn enwedig efo bandiau pres, petai 'na un cwmni proffesiynol yn edrych ar 么l y bandiau mewn ffordd cywir ac yn eu helpu nhw ffeindio grantiau tuag at bethau gwahanol sy'n dod 芒 chyffro i fewn iddo fo, ac wedyn wrth gwrs os oes cyffro o fewn rhywbeth mae pobl ifanc yn mynd i ddechrau chwarae yn hytrach na chwarae rygbi a ph锚l-droed.

Wrth gwrs mae gan b锚l-droed a rygbi eu lle ac maen nhw'n bwysig iawn i ni fel Cymry, ond mae isho rhoi cyfle i bawb gael gwneud bob dim, a dwi ddim yn teimlo bod y cyfle yno i bawb oherwydd dydi'r arian ddim yna i gefnogi y prosiectau 'ma.

Mae corff proffesiynol yn gallu rhoi cefnogaeth o ddechrau prosiect tan y diwedd, a dwi ddim ond yn s么n am faterion ariannol, maen nhw yna i gynnig cyngor ym mhob math o ffyrdd.

Mi fydd rhaid i fi gysylltu efo'r Eisteddfod [Genedlaethol] achos mi fyswn i'n hoffi cario 'mlaen.

Mae cael bod yn rhan o'r seremon茂au yn wych - mae pob seremoni yn wefr ac mae bob un yn wahanol - mae'r holl beth yn wych ac yn gymaint o hwyl.