Cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru ar gyfer 2017-2019

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd Casia Wiliam yn dechrau ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru ym mis Medi

Cafodd enw Bardd Plant Cymru ar gyfer cyfnod 2017-2019 ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Ogwr, Taf ac El谩i brynhawn dydd Mawrth.

Casia Wiliam, o Nefyn yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, fydd yn cymryd yr awenau gan y bardd plant presenol Anni Ll欧n.

Daeth y cyhoeddiad o lwyfan y Brifwyl gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Casia Wiliam fydd y pymthegfed bardd plant, a bydd yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ym mis Medi.

Mae wedi cyhoeddi dau lyfr i blant, wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i'r Gymraeg ac mae'n aelod o d卯m Y Ffoaduriaid ar gyfres radio 成人快手 Cymru, Talwrn y Beirdd.

"Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael crwydro ledled Cymru yn cyfarfod yr holl blant, y rhai sy'n cael modd i fyw wrth sgwennu a'r sgwennwyr anfoddog!" meddai.

'Pleser pur'

"Mi fydd yn bleser pur clywed eu syniadau, tanio eu dychymyg, ac annog pawb i roi cynnig ar sgwennu cerdd.

"Yn ystod fy nghyfnod fel Bardd Plant Cymru dwi'n gobeithio dangos i blant bod pawb yn gallu sgwennu cerdd, bod barddoniaeth yn rhywbeth sy'n byw yn y glust nid dim ond ar bapur, a bod darllen a sgwennu barddoniaeth yn ffyrdd gwych o weld a phrofi bywyd trwy lygaid rhywun, neu rywbeth arall."

Dywedodd Casia fod cael ei gwneud yn Fardd Plant Cymru yn "fraint", a'i bod wedi bod yn uchelgais iddi ers amser.

"Nes i ddechrau barddoni pan yn blentyn fy hun - dwi'n cofio Bethan Gwanas yn dod i Ysgol Nefyn ac fe gafon ni weithdy barddoniaeth, a nes i fwynhau'n ofnadwy," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Anni Ll欧n wedi bod yn Fardd Plant Cymru ers 2015

"Dwi hyd yn oed yn cofio Myrddin ap Dafydd yn cael ei wneud yn Fardd Plant Cymru - dwi'n meddwl mai 12 oed oeddwn i ar y pryd. Mae Anni wedi gwneud yn anhygoel, ac wedi dod 芒'i phersonoliaeth i'r r么l, ond dwi'n gobeithio torri cwys fy hun," meddai.

"Dwi'n cofio pan oeddwn i yn yr ysgol roedd 'na blant oedd yn licio 'sgrifennu a barddoniaeth, fel fi, oedd wastad wedi ecseitio pan oedd 'na rywun yn dod i'r ysgol. Ond roedd gennych chi wastad blant oedd yn meddwl 'o na, barddoniaeth' - felly dwi'n ei osod fel her i'n hun i geisio cael y 'sgrifennwyr anfoddog i fwynhau.

"Y nod yw ceisio cael nhw i sylweddoli bod barddoniaeth yn rhywbeth allan nhw ei berchnogi hefyd - ei fod o'n rhywbeth i bawb."

Brwdfrydedd

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru am y cyhoeddiad: "Rydym wrth ein boddau fod Casia yn cymryd yr awenau, a hoffem ddiolch i Anni am ei holl waith a'i brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae pob Bardd Plant Cymru wedi perchnogi a datblygu'r cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad y bydd Casia yn ei arwain. Mae hi'n lenor talentog dros ben, ac rydym fel partneriaid yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cynllun yn torri tir newydd a chyffrous. Mynnwch weithdy ac ymweliad ganddi!"

Bydd Anni Ll欧n a Casia Wiliam yn cynnal rhai digwyddiadau ar y cyd rhwng nawr a diwedd yr haf, gan gynnwys Talwrn y Beirdd Bach yn ffair Tafwyl 2017 ar 1 Gorffennaf.

Cynllun ar y cyd yw cynllun Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru.