Betsi Cadwaladr yn obeithiol am adael mesurau arbennig

Disgrifiad o'r llun, Daeth Gary Doherty yn brif weithredwr ar fwrdd iechyd y gogledd ym mis Chwefror 2016
  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru

Fe allai bwrdd iechyd y gogledd fod mewn sefyllfa i gael ei dynnu allan o fesurau arbennig erbyn diwedd y flwyddyn, yn 么l eu pennaeth.

Ond wrth fynnu fod y bwrdd wedi gwneud "gwelliannau" mawr, mae Gary Doherty yn cydnabod fod perfformiad y gwasanaeth iechyd yn y gogledd mewn rhai meysydd yn parhau'n annerbyniol.

Cafodd y bwrdd ei osod dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ddwy flynedd yn 么l yn dilyn pryderon sylweddol am ofal cleifion.

Yn dilyn hynny fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething gyfres o gerrig milltir y mae angen i'r bwrdd eu cyrraedd erbyn Tachwedd eleni, cyn gellir ystyried tynnu'r bwrdd iechyd o fesurau arbennig.

'Cynnydd'

Yn 么l Mr Doherty, wnaeth gymryd yr awenau ym mis Chwefror y llynedd, mae'r bwrdd iechyd wedi "gwneud cynnydd ym mhob ardal" gan awgrymu eu bod ar y trywydd i gwrdd 芒'r gofynion.

"Yn fy marn i rydyn ni wedi gwneud y cynnydd roeddwn i am ei wneud, a'r hyn oedd angen i ni ei wneud," meddai.

"Mi gawn ni peth ymateb ar farn eraill cyn bo hir.

"Y peth pwysicaf i ni ydy bod angen i ni barhau i wneud y pethau ry'n ni'n meddwl yw'r pethau cywir i'w gwneud."

Bydd y penderfyniad terfynol ar statws Betsi Cadwaladr yn cael ei wneud ar y cyd rhwng Uwch Swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Fe wnaeth Mr Doherty dynnu sylw at lwyddiannau fel:

  • "Llwyddiant ysgubol" wrth ostwng cyfraddau haint C.difficile o 23%;
  • Gwelliant sylweddol o ran ysbryd staff, gyda gwell ymatebion i bob un o'r 150 o fesurau yn yr arolwg staff blynyddol;
  • Cynnydd da yn yr ymdrech i wrando ac ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gyda 300 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws gogledd Cymru ers dechrau'r flwyddyn.

Prinder staff

Mae ystadegau swyddogol hefyd yn dangos fod Betsi Cadwaladr ymhlith y byrddau iechyd gorau yng Nghymru o ran gofal str么c a chanser.

Ond ar rai mesurau mae Mr Doherty yn cydnabod fod y perfformiad yn annerbyniol.

Mae adroddiad perfformiad mwya' diweddar y bwrdd iechyd yn dangos eu bod nhw gyda'r gwaethaf yng Nghymru o ran nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr mewn unedau brys, a nifer y cleifion sy'n aros dros naw mis am driniaeth.

Mae heriau sylweddol yn parhau wrth daclo prinder staff, yn arbennig meddygon teulu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd y bwrdd iechyd wedi'i feirniadu am fethiannau yn ward iechyd meddwl Tawel Fan

Fe wnaeth Mr Doherty hefyd gydnabod fod gwaith sylweddol i'w gyflawni yng ngofal iechyd meddwl, er bod strategaeth newydd wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar - un o ofyniadau mesurau arbennig.

Cyn cael ei gosod mewn mesurau arbennig cafodd y bwrdd ei feirniadu'n hallt yn dilyn ffaeleddau mawr yn ymwneud 芒 gofal cleifion dementia yn ward Tawel Fan - sydd bellach wedi cau - yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Mr Doherty y byddai'n barod, os yn addas, diswyddo neu gymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw un oedd ar fai unwaith y bydd canfyddiadau dau ymchwiliad ychwanegol i'r hyn ddigwyddodd gael eu cyhoeddi yn yr hydref.