Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharorion cyntaf yn symud i Garchar y Berwyn
Mae'r carcharorion cyntaf wedi cael eu symud i Garchar y Berwyn yn Wrecsam ddydd Mawrth - un o'r carchardai mwyaf yn Ewrop.
Bydd y carchar - a gostiodd 拢250m i'w adeiladu - yn gartref i hyd at 2,100 o garcharorion cyn hir.
Bydd y mwyafrif ohonynt yn rhai categori C, sy'n golygu eu bod yn droseddwyr sydd ddim yn debygol o geisio dianc, ond bydd rhai carcharorion categori B yno hefyd.
Dywedodd llywodraethwr y carchar, Russ Trent mai ailhyfforddi carcharorion yw'r flaenoriaeth.
Ychwanegodd y bydd y staff yn cyfeirio at y carcharorion fel "dynion" ac y bydd ganddyn nhw "ystafelloedd", dim celloedd.
Pryderon
Cafodd y lleoliad ei ddewis ym mis Medi 2013, gyda phobl sy'n byw gerllaw yn mynegi pryder am yr effaith ar brisiau tai ac am ddiogelwch.
Mae Cynghrair Howard a grwpiau ymgyrchu eraill yn parhau'n feirniadol o garchardai mawr o'r math yma.
Maen nhw'n dweud bod y nifer o hunanladdiadau ac achosion o hunan anafu ymysg carcharorion yn dangos nad ydyn nhw'n gweithio.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r carchar ym mis Mai 2015, ac mae'r gwaith yn parhau ar ran o'r safle.
Mae wedi ei rannu'n dair rhan, gyda phob un yn cartrefu 700 o ddynion.
Gohebydd 成人快手 Cymru, Dafydd Evans oedd un o'r rhai cyntaf i gael cipolwg ar y carchar newydd:
"Roedd yna'n sicr gyffro i'w deimlo yng Ngharchar y Berwyn y bore 'ma wrth i ni aelodau'r wasg gael ein tywys o amgylch y safle.
"Darnau penodol yn unig yr oedd modd eu gweld gan fod y gwaith adeiladu yn dal i gael ei gwblhau mewn rhannau eraill.
"Er hynny, rhwng y c诺n diogelwch, y swyddogion yn brysio a'u hallweddi'n clincian, a'r pwyslais amlwg ar gloi pob drws a gi芒t, roedd teimlad pendant bod heddiw'n ddiwrnod pwysig.
"Roedd popeth yn l芒n a gloyw, o'r fan chwarae meddal i blant ymwelwyr yn y dderbynfa, i'r gegin a'r prif adeiladau llety.
"Mae'r pwyslais ar gael agwedd wahanol yng Ngharchar y Berwyn. Mae'r ieithwedd yn wahanol - 'ystafelloedd' sydd yma, nid celloedd; 'dynion', nid troseddwyr.
"Y syniad ydy ceisio gwneud bywyd yn fwy 'normal', yn debycach i fywyd yr ochr arall i'r ddwy ffens uchel.
"Adeilad Bala welsom ni, un o'r tri 'th欧' fydd yn dal 700 o 'ddynion'. Mi welsom ni 'ystafelloedd' cyfyng ond oedd 芒 chawod, teledu a thegell.
"Mae'r penaethiaid yn gwybod bod beirniaid mewn sawl cyfeiriad ac y bydd y rheini'n barod ar yr arwydd cyntaf o unrhyw drafferthion.
"Ond maen nhw'n mynnu na fydd y carchar yn lle 'hawdd'.
"Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd trin pobl 芒 pharch yn helpu i ostwng lefelau hunan-niweidio a hunanladdiadau ymysg troseddwyr."