397 o ffoaduriaid o Syria wedi ailgartrefu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn 么l yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref, mae o leiaf 397 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi eu hailgartrefu yng Nghymru.
Roedd 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn ffoaduriaid o dan gynllun Ailgartrefu Pobl Bregus Syria gan Lywodraeth y DU erbyn diwedd Rhagfyr y llynedd.
Mae rhai cynghorau wedi cael eu beirniadu am fod yn araf yn ailgartrefu pobl.
Daeth croeso i'r ffigyrau gan elusen Oxfam Cymru.
Dywedodd Matthew Hemsley ar ran yr elusen: "Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl mewn angen ac mae'n bwysig gweld y traddodiad yna'n parhau."
Yn ail hanner 2016 y daeth y mwyafrif o ffoaduriaid i Gymru, sef 285. Mae cyfanswm y ffoaduriaid i gael eu derbyn i'r DU yn 5,454.
Yng Nghymru, mae'r nifer o ffoaduriaid i gael eu derbyn gan y cynghorau unigol fel a ganlyn:
Ynys M么n - 4;
Blaenau Gwent - 10;
Pen-y-bont ar Ogwr - 6;
Caerffili - 12;
Caerdydd - 26;
Sir Gaerfyrddin - 33;
Ceredigion - 23;
Conwy - 3;
Sir Ddinbych - 5;
Sir y Fflint - 5;
Gwynedd - 12;
Merthyr Tudful - 8;
Sir Fynwy - 15;
Castell-nedd Port Talbot - 52;
Casnewydd - 10;
Sir Benfro - 0;
Powys - 44;
Rhondda Cynon Taf - 34;
Abertawe - 45;
Torfaen - 15;
Bro Morgannwg - 15;
Wrecsam - 20.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd25 Awst 2016