成人快手

Carchar am dorri bys dyn i ffwrdd 芒 chyllell ar Snapchat

  • Cyhoeddwyd
Malachi Halstead

Mae dyn 35 oed wedi ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar am ddefnyddio cyllell fawr i dorri bys dyn arall i ffwrdd, a dangos y digwyddiad ar wefan cymdeithasol.

Fe wnaeth Malachi Halstead o Gasnewydd yrru Teerath Mann, 23, i ardal ddistaw yn y ddinas er mwyn torri ei fys i ffwrdd, a hynny oherwydd ffrae ynglyn 芒 chyffuriau ac arian.

Roedd Halstead, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel DJ Madskie, wedi dangos y bys ar Snapchat - ap sy'n gadael i bobl rannu lluniau a fideos.

Fe wnaeth Llys y Goron Caerdydd weld recordiad o'r fideo, sy'n dangos Halstead gyda bys a chyllell fawr.

Clywodd y llys bod Mr Mann yn gwerthu cyffuriau i Halstead, ond bod yntau yn credu bod arian yn mynd ar goll.

Roedd Halstead wedi gwadu'r ymosodiad, ond fe'i gafwyd yn euog gan y rheithgor.

Dywedodd y Cofiadur Christopher Clee bod yr ymosodiad yn "gwbl farbaraidd" a bod Halstead wedi cyhoeddi'r fideo er mwyn gwneud i Mr Mann edrych yn "pathetig".