Cwmni Orthios 'wedi ymrwymo' i gynllun biomas M么n
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Orthios yn dweud eu bod yn dal wedi ei ymrwymo i ddatblygu pwerdy biomas ar Ynys M么n, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y datblygwyr yn chwilio am fuddsoddwyr newydd.
Fe ddaeth yr ansicrwydd am gynllun Parc Eco i'r amlwg am fod cytundeb gyda buddsoddwyr o China wedi methu, gan adael bwlch o 拢2bn.
Yn y datganiad, dywedodd Orthios eu bod wedi rhoi gwybod yn gyfrinachol i Gyngor M么n "fisoedd yn 么l" bod eu cytundeb gyda Sino Fortune Group wedi dod i ben, ac nad oedden nhw'n gweithio gyda nhw bellach.
"Ers hynny, rydym wedi ymgynghori 芒 sefydliadau ariannol mawr, ac rydym yn cydweithio ag ymgynghorwyr blaenllaw er mwyn sichrau'r cyllid ar gyfer prosiect bwyd a ph诺er Ynys M么n."
Y gobaith yw y bydd y pwerdy yng Nghaergybi, ar hen safle Alwminiwm M么n, yn creu hyd at 500 o swyddi.
Cafodd y safle ei brynu gan y cwmni yn 2015.
Mae Cyngor M么n yn dweud eu bod yn parhau'n ffyddiog y bydd cynllun i godi pwerdy biomas yno'n cael ei wireddu.
Dywedodd Dylan Williams, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y cyngor fod y cwmni yn awyddus i barhau gyda'r buddsoddiad a'r gwaith o gynhyrchu ynni.
"Yn amlwg mae'r sefyllfa ariannol wedi newid. Doedd yna ddim cytundeb ffurfiol i ariannu ond ein dealltwriaeth ni yw bod nhw'n edrych am ffynonellau gwahanol," meddai.