成人快手

Owens wedi holi am driniaeth gemegol wedi sylweddoli ei fod yn hoyw

  • Cyhoeddwyd
nigel owensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nigel Owens oedd yn dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd 2015

Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi s么n am yr her o ddygymod 芒'i rywioldeb.

Dywedodd wrth raglen Radio 4, Desert Island Discs, ei fod wedi gofyn am driniaeth ysbaddu gemegol wedi iddo sylweddoli ei fod yn hoyw.

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi ceisio lladd ei hun am fod ei rywioldeb yn teimlo'n "hollol ddieithr" iddo.

Datgelodd Owens, sy'n dod o Fynyddcerrig yn Sir G芒r, ei fod yn hoyw yn 2007.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Derbyniodd Owens MBE y llynedd ym Mhalas Buckingham

"Doedd dyfarnu rownd derfynol Cwpan y Byd rhwng Awstralia a Seland Newydd [yn 2015] o flaen 85,000 o bobl a'r miliynau oedd yn gwylio adref, yn gwylio pob penderfyniad chi'n ei wneud, o dan bwysau aruthrol, doedd e'n ddim byd o'i gymharu 芒 derbyn pwy ydw i", meddai.

Aeth Owens, sydd bellach yn 45, at y doctor a dweud: "Dwi ddim moyn bod yn hoyw. Alla' i gael triniaeth ysbaddu gemegol?"

Dywedodd hefyd ei fod yn diodde' o fwlimia a'i fod yn gaeth ar steroidau pan ddechreuodd fynd i'r gampfa.

Pan oedd e'n 34, dywedodd wrth ei fam, Mair, ei fod yn hoyw. Roedd ei dad, Geraint, yn "ei chael hi'n anodd ar y cychwyn" i ddelio 芒'r newyddion, ond dywedodd Owens: "'Dyw fy nghariad i ato fe na'i gariad e ataf i heb newid o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owens oedd dyfarnwr g锚m dyngedfennol Cwpan Pencampwyr Ewrop 2016 hefyd

Ychwanegodd Owen ei fod wedi cael cefnogaeth gref gan Undeb Rygbi Cymru a'i fod wedi derbyn "ail gyfle".

"Os nad ydych chi'n hapus efo pwy 'ych chi, allwch chi ddim llwyddo a bod y gore' allwch chi ar be' chi'n ei wneud," meddai.

"Allwch chi ddim mwynhau bywyd os nad 'ych chi'n hapus ynoch chi'ch hun".

Bydd cyfweliad llawn Nigel Owens ar Desert Island Discs ar Radio 4 am 11:15 ddydd Sul.