成人快手

Alun Davies yn 'hyderus' o lwyddiant canolfannau iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ydy'r canolfannau Cymraeg yn gweithio?

Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Alun Davies, yn "hyderus" bod pob un o'r canolfannau iaith sydd wedi derbyn cymorth gan y llywodraeth yn mynd i lwyddo.

Mewn cyfweliad gyda 成人快手 Cymru Fyw, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes hefyd y byddai'r llywodraeth yn gallu ymyrryd os ydy'r canolfannau yn mynd i drafferthion.

Ond dywedodd nad oedd am weld y llywodraeth fel "banker parhaol".

Mae'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd wedi wynebu trafferthion o fewn ei blwyddyn gyntaf gydag ansicrwydd am ddyfodol hir-dymor y caffi bar, y cr猫che yn cau oherwydd "diffyg diddordeb" a phryderon gyda'r rhent.

"Mae'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a phrofiadau Cymraeg i drigolion y ddinas," meddai Alun Davies.

"Mae cynllun busnes Yr Hen Lyfrgell yn perthyn i weledigaeth sawl partner ac rydym ni'n ymwybodol fod y bartneriaeth yn trafod gyda Cyngor y Ddinas i geisio datrys y sefyllfa a chryfhau eu cynllun busnes.

"Dwi eisiau symud i ffwrdd o'r trafodaethau negyddol. Ambell waith dyw e ddim yn adlewyrchu beth sy'n digwydd mewn gwirionedd."

'Drws ar agor'

Ychwanegodd fod posibilrwydd o agor mwy o ganolfannau yn y dyfodol, os ydy'r galw yno.

"Os yw pobl yn gweld bod angen canolfan newydd dwi'n agored iawn i ystyried hynny," meddai. "Mae'r drws yn gwbl agored i weld sut allwn ni ddatblygu'r syniad yn y dyfodol.

"Ond dwi ddim yn gweld r么l y llywodraeth yn rhedeg y canolfannau na bod yn rhyw fath o banker parhaol i'r canolfannau - dwi'n gweld r么l y llywodraeth o fod yn y cefndir a dim fel rheolwyr.

"Dwi'n hyderus iawn y gallwn ni gydweithio yn y dyfodol a sicrhau llwyddiant pob un ohonyn nhw."

Llywodraeth yn 'na茂f'

Ond yn 么l Ioan Talfryn, prif weithredwr menter Popeth Cymraeg, mae angen i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth tu hwnt i'r grantiau cychwynnol a chael strategaethau mwy pendant.

"Dwi'n meddwl bod y syniad o agor canolfan jysd i fod yn rwle lle mae petha' Cymraeg yn digwydd tipyn bach yn na茂f," meddai.

"Dwi'n meddwl bod eu bwriad nhw'n ddiffuant, ond weithia' ella bod pobl sy'n gweithio i'r Cynulliad ddim cweit yn gwybod sut mae pethau'n gweithio ar lawr gwlad."