Y 'ghettos' Cymraeg?
- Cyhoeddwyd
Ers Awst 2014 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros 拢2.4m ar ganolfannau iaith ac ardaloedd dysgu er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'n rhan o bolisi 'Bwrw 'Mlaen' y llywodraeth, gyda'r Atom yng Nghaerfyrddin, yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, ac adeilad Popdy ym Mangor yn un o sawl menter i dderbyn cymorth ariannol. Ond ydy'r canolfannau Cymraeg yn gweithio mewn gwirionedd?
"Bydd yr ardaloedd iaith deinamig hyn yn golygu bod pobl yn gallu dod i gysylltiad 芒'r iaith ac fe fyddan nhw hefyd yn gweithredu fel hybiau cymunedol," meddai'r Prif Weindiog Carwyn Jones n么l yn 2014, ar 么l cyhoeddi'r polisi newydd.
Roedd yr arian yn cael ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion. Er enghraifft, derbyniodd Canolfan Camu yn Wrecsam yr arian drwy gais Coleg Cambria, Yr Atom drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, T欧'r Gwrhyd ym Mhontardawe drwy Academi Hywel Teifi, Yr Hen Lyfrgell drwy Gyngor Dinas Caerdydd, a Popdy ym Mangor drwy Gyngor Gwynedd.
Ioan Talfryn ydy prif weithredwr Popeth Cymraeg - menter sy'n cynnig dosbarthiadau i ddysgwyr yn y gogledd ddwyrain.
Doedd Popeth Cymraeg ddim yn gymwys i wneud cais am arian fel rhan o bolisi 'Bwrw 'Mlaen' er bod y fenter wedi agor dwy ganolfan iaith eu hunain ers sefydlu yn 1991.
"Dwi'n meddwl bod y syniad o agor canolfan jysd i fod yn rwle lle mae petha' Cymraeg yn digwydd tipyn bach yn na茂f," meddai Ioan Talfryn.
"Dwi'n meddwl bod eu bwriad nhw'n ddiffuant, ond weithia' ella bod pobl sy'n gweithio i'r Cynulliad ddim cweit yn gwybod sut mae pethau'n gweithio ar lawr gwlad.
"O'n i'n gweld y llywodraeth ychydig bach yn gul o ran gweledigaeth gan bod cyrff fel ni - a oedd wedi cael eu sefydlu yn unswydd i ddysgu Cymraeg i oedolion - ddim yn cael gwneud cais am arian.
"Dydyn nhw ddim digon eang yn ei dealltwriaeth o be' ydy anghenion cymunedol achos dwi'n meddwl bod Caerdydd yn bell o bob man."
Mae pencadlys y fenter yn Sir Ddinbych ac maen nhw'n dysgu mwy na 400 o bobl y flwyddyn, gan gyflogi tri llawn-amser a 25 o diwtoriaid rhan-amser.
"'Da ni'n canolbwyntio ar ddysgu Cymraeg i oedolion, 'da ni'n ffocwsd iawn ar be' yda ni'n wneud. Mae T欧 Tawe yn gwneud gwaith da, y ganolfan ym Merthyr Tudful wedi gwneud gwaith arbennig o dda, er enghraifft - ond dylai'r llywodraeth fod yn fwy ffocwsd o ran y math o ganolfannau sydd eu hangen.
"Mae'n nhw'n cadw i s么n am ganolfannau iaith ond does dim cymharu o gwbl 芒 chynlluniau sy'n mynd ymlaen yng Ngwlad y Basg.
"Dwi'n meddwl bod y llywodraeth wedi cymryd yr egwyddor ond ddim wir wedi meddwl yn union sut mae llywodraeth y Basg wedi gwneud defnydd creadigol o'r canolfannau yma."
'Drws yn gwbl agored'
Mae gan Popeth Cymraeg fwriad i agor canolfan iaith newydd ym Mhrestatyn gan fod y galw yno, meddai Mr Talfryn.
Ac mae'r llywodraeth yn agored i'r syniad o sefydlu mwy o ganolfannau Cymraeg, yn 么l Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
"Os yw pobl yn gweld bod angen canolfan newydd dwi'n agored iawn i ystyried hynny," meddai. "Mae'r drws yn gwbl agored i weld sut allwn ni ddatblygu'r syniad yn y dyfodol.
"Mae'r polisi yn polisi fyw felly 'dyn ni'n ystyried sut ydyn ni'n gallu datblygu syniad o ganolfannau ac os ydyn ni'n gweld yr angen neu mae'r cynnig yn dod atom ni dwi'n hen fodlon trafod hynny ac ystyried hynny lle bynnag maen nhw.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni gael perthynas gyda'r canolfannau sy'n mynd tu hwnt i'w hagor nhw.
"Rwy'n credu bod gan y llywodraeth r么l i'w chwarae yn y cefndir. Dwi ddim eisiau bod, fel Gweinidog, yn gyfrifol am redeg pob un o'r canolfannau achos fyswn i'n methu os fyswn i'n gwneud penderfyniadau fan hyn ym Mae Caerdydd.
"Mae'n rhaid i bobl yn y gymuned redeg y canolfannau, [mae] pobl sy'n nabod yr ardal yn mynd i wneud lot gwell penderfyniadau na fyswn i neu weision sifil yn fan hyn."
Yr Hen Lyfrgell
Canolfan sydd wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar - yn aml am y rhesymau anghywir - ydy'r Hen Lyfrgell yn y brifddinas.
Ym mis Gorffennaf y llynedd daeth hi i'r amlwg fod y caffi bar yn y ganolfan, Amser, yn cau ar 么l i'r rheolwyr - Clwb Ifor Bach - benderfynu rhoi'r gorau iddi.
Roedd mwy o ansicrwydd cyn y Nadolig pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud bod y caffi bar i gau am yr ail waith, ac mae lle i gredu hefyd bod y rhent o 拢46,000 y flwyddyn yn achosi trafferthion.
"Mae'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a phrofiadau Cymraeg i drigolion y ddinas," meddai Alun Davies. "Mae cynllun busnes Yr Hen Lyfrgell yn perthyn i weledigaeth sawl partner ac rydym ni'n ymwybodol fod y bartneriaeth yn trafod gyda Cyngor y Ddinas i geisio datrys y sefyllfa a chryfhau eu cynllun busnes.
"Dwi eisiau symud i ffwrdd o'r trafodaethau negyddol. Ambell waith dyw e ddim yn adlewyrchu beth sy'n digwydd mewn gwirionedd."
Ond pe byddai'r hwch yn mynd trwy'r siop go iawn, fyddai'r llywodraeth yn camu i fewn?
"Dwi'n credu bod y temptasiwn yno - a dwi'n credu bod gan y llywodraeth rhyw fath o gyfrifoldeb i sicrhau bod yr help yno os oes angen," ychwanegodd Alun Davies. "Felly dwi'n meddwl gall y llywodraeth ymyrryd os oes rhaid a dwi'n meddwl dylai'r llywodraeth fod yno i ymyrryd os mai dyna yw ewyllys y bobl sy'n rhedeg y lle.
"Ond dwi ddim yn gweld r么l y llywodraeth yn rhedeg y canolfannau na bod yn rhyw fath o banker parhaol i'r canolfannau - dwi'n gweld r么l y llywodraeth o fod yn y cefndir a dim fel rheolwyr.
"Dwi'n hyderus iawn y gallwn ni gydweithio yn y dyfodol a sicrhau llwyddiant pob un ohonyn nhw."
Ond drwy sefydlu canolfannau o'r fath, oes perygl fod pobl di-Gymraeg yn cael eu hynysu ac yn gweld rhain fel rhyw fath o 'ghettos'?
"Mae 'na berygl - ond oherwydd bod gan y canolfannau wreiddiau dwfn yn y cymunedau rwy' ddim yn credu bod hynny'n digwydd. Does gen i ddim tystiolaeth o hynny'n digwydd a dydw i heb glywed neb yn awgrymu bod hynny'n digwydd.
"Dydw i ddim eisiau gweld rhain fel ghettos, dwi eisiau gweld rhain fel llwyfan.
"Dwi eisiau rhywle lle mae plentyn chwech oed yn gallu chwarae o gwmpas ac yn clywed y Gymraeg gan bobl sydd ddim yn athrawon - ac mae'r canolfannau yn help."