成人快手

Cyngor M么n i ymgynghori ar gau ysgolion ar yr ynys

  • Cyhoeddwyd
ynys mon

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys M么n wedi penderfynu ymgynghori ar gynlluniau i ad-drefnu ysgolion cynradd yr ynys.

Fe allai tair ysgol gynradd gau yn 么l y cynlluniau fydd yn cael eu cyflwyno gan y cyngor.

Mae dau opsiwn yn cael eu hystyried ar gyfer ysgolion Corn Hir, Bodffordd, Esceifiog, Talwrn, Henblas a'r Graig.

Mae'r cyngor eisoes wedi ymgynghori 芒 rhieni, llywodraethwyr a staff y chwe ysgol, ynghyd 芒 chynghorwyr lleol a Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn y penderfyniad ddydd Llun bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddau opsiwn sydd yn cael eu hystyried.

Opsiwn A

  • Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;

  • Adnewyddu Ysgol Esceifiog;

  • Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;

  • Adnewyddu Ysgol Henblas.

Opsiwn B

  • Adeiladu ysgol i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;

  • Adeiladu ysgol gynradd newydd i 150 o ddisgyblion yng Ngaerwen yn lle Ysgol Esceifiog;

  • Ehangu Ysgol Y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, fyddai'n cau;

  • Adnewyddu Ysgol Henblas.