成人快手

Codi ymwybyddiaeth drwy ffoi o Fethlehem i'r Aifft

  • Cyhoeddwyd
Ffoi o Fethlehem i'r AifftFfynhonnell y llun, Cymorth Cristnogol

Ddydd Sul, fe fydd nifer yn dechrau ar daith o Fethlehem, Sir G芒r i'r Aifft yn Sir Ddinbych er mwyn dwyn sylw i anghenion miliynau o ffoaduriaid ar draws y byd.

Cyfleu profiad y ffoadur yw nod y daith wrth i staff a chefnogwyr Cymorth Cristnogol a Cyt没n (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) gerdded 140 milltir.

Ffynhonnell y llun, Cymorth Cristnogol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol

Meddai Huw Thomas, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru: "Gyda thymor y Nadolig yn agos谩u, cofiwn fel y bu raid i Iesu a'i deulu ffoi i'r Aifft i ddianc rhag trais Herod.

"Heddiw, mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg, gan ddarparu cymorth dyngarol megis bwyd, meddyginiaeth a phecynnau glendid, mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd.

"Mae'r daith gerdded hon yn fodd nid yn unig i godi arian hanfodol i gynnal ein gwaith, ond hefyd i dynnu sylw i'w dioddefaint, a herio'r ffordd y mae'r cyfryngau a'r llywodraeth wedi bod yn portreadu ffoaduriaid."

Yn ystod y daith a fydd yn para o ddydd Sul 4 Rhagfyr tan nos Iau 15 Rhagfyr, fe fydd nifer o ddigwyddiadau gweledol yn cael eu cynnal er mwyn tynnu sylw at argyfwng ffoaduriaid.

Ffynhonnell y llun, Cymorth Cristnogol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffoaduriaid yn cerdded trwy Serbia

Ddydd Iau 5 Rhagfyr, mae'r teithwyr yn gobeithio croesi afon Dyfi mewn cwch o Ynyslas i Aberdyfi. Yna fe fydd Esgob Bangor, Andy John yn arwain gwasanaeth byr fel croeso symbolaidd i'r ffoaduriaid.

Gwasanaeth ym Methlehem, bore Sul fydd dechrau'r daith ac yna teithir i Edwinsford, Llanbed, Tregaron, Aberystwyth, Ynyslas, Machynlleth, Brithdir, Bala, Rhuthun a chyrraedd yr Aifft ar 15 Rhagfyr. Ar y noson olaf, fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy i gloi'r daith.

Gwahoddir unrhyw un i ymuno 芒'r teithwyr neu i gefnogi'r Ap锚l Nadolig.

Meddai'r Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr Cyt没n, "Rwy'n falch iawn o'r cyfle i fod yn rhan o'r daith arbennig hon.

"Cefais y fraint o deithio i weld sefyllfa'r ffoaduriaid ar y ffin rhwng Serbia a Macedonia ac mae'n holl bwysig ein bod yn dal ar bob cyfle i godi llais ac i godi arian i leddfu'r angen mawr sy'n wynebu'r teuluoedd hyn sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd enbyd yn ein byd."

Fe fydd crynodeb a llun o'r daith i'w gweld yn ddyddiol ar Cymru Fyw.