Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorwario'r byrddau iechyd yn golygu arian ychwanegol
Bydd mwy 'na 拢68m yn cael ei ychwanegu at gyllideb y gwasanaeth iechyd er mwyn delio gyda'r gorwario mewn dau fwrdd iechyd.
Fe wnaeth yr ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford y cyhoeddiad ddydd Mercher.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i lenwi'r bylchau a gafodd eu hachosi gan orwariant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn y flwyddyn ariannol yma.
Bydd yr arian yn dod o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion wedi dechrau cynllunio Cyllidebau Byrddau Iechyd lleol ar gyfer cyfnod o dair blynedd yn dilyn beirniadaeth bod y llywodraeth yn gyson yn gorfod rhoi arian ychwanegol i'r byrddau iechyd.