成人快手

Lle oeddwn i: Angladd Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Beddi torfol // Mass gravesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na hanner canrif ers i'r Parchedig Ivor Thomas Rees glywed y newyddion bod "rhywbeth ofnadwy wedi digwydd dros y mynydd".

Wythnos ar 么l marwolaeth ei fam-gu, ar fore Gwener 21 Hydref roedd e a'i wraig, Delyth, yn Nhreherbert pan glywson nhw gyntaf am yr hyn oedd wedi digwydd yn Aberfan.

Bu'n rhannu ei atgofion gyda Cymru Fyw, ar drothwy 50 mlynedd ers yr angladd torfol yn y pentref:

'Rhaid i mi wneud rhywbeth!'

Hanner canrif yn 么l bu Delyth a minnau yn Nhreherbert, rhyw wythnos ar 么l marwolaeth Mam-gu. Aethom gyda'm chwaer Eirwen a'm modreb May i Bontypridd i orffen busnes cyfreithiol marwolaeth Mam-gu.

Bore diflas a'r cymylau'n isel iawn oedd 21 Hydref 1966.

Wrth i ni gyrraedd yn 么l yn Herbert Street, dywedodd cymdoges wrthym mewn Saesneg bod "rhywbeth ofnadwy wedi digwydd dros y mynydd". Yr oedd lluniau erchyll eisoes i'w gweld ar y teledu.

Teimlais fod y byd wedi symud o dan fy nhraed: roeddwn yn fab i l枚wr a bron pob dyn yn y teulu wedi gweithio mewn pwll glo, gan fynd yn 么l pedair cenhedlaeth at hen, hen dad-cu yn saer glofa yn y Cendl, Sir Frycheiniog. Ar ben hynny, cafodd Nhad a'i dad yntau ei eni yn Abercanaid, y pentref nesaf at Aberfan.

Dim ond un peth ddaeth i'm meddwl: "Rhaid i mi wneud rhywbeth!" Wedi i ni ddychwelyd i Aberafan ceisiais ffonio fy nghyfaill, y Parch. Derwyn Morris Jones, oedd newydd symud i Rydaman ond yn dal i fod yn gaplan i Faer Merthyr Tydfil.

Deuthum o hyd iddo yn nh欧 ysgrifennydd Horeb, Penydarren, a chynnig fy ngwasanaeth. Daeth yn 么l ataf dros y penwythnos gan ofyn i mi fod yn Aberfan erbyn 8.00 o'r gloch bore dydd Llun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Parch. Ivor Rees: "Teimlais fod y byd wedi symud o dan fy nhraed"

'Llwyr ddistawrwydd'

Cyfres o luniau sy'n aros yn fy nghof erbyn hyn. Y cyntaf oedd troi'r briffordd o Gastell Nedd (Blaen y Cymoedd yn awr) i'r dde - cyn bo hir, rhaid aros o flaen rhwystr ffordd yr heddlu ac un ohonynt yn gofyn i ble oeddwn yn mynd. Pan ddywedais fy mod ar fy ffordd i Aberfan ar gais caplan y maer, cefais ganiat芒d i fynd ar fy ffordd.

Y peth mawr oedd wedi taro pob ymwelydd erbyn hynny oedd llwyr ddistawrwydd y strydoedd a bron neb o gwmpas. Safodd periannau mawrion o hyd yn agos at leoliad yr ysgol a hwythau'n segur - ond heb yr unig blentyn yn agos atynt mewn oes pan y stryd oedd eu man chwarae ar 么l ysgol - a'r tristwch yn hongian fel cwmwl uwchben y pentre'.

Mewn tafarn wedi ei chau dros dro oedd ein swyddfa, gan ei rhannu gyda rhyw hanner dwsin o drefnwyr angladd o ardal eang o'r cymoedd ac un o Gaerdydd.

Hyd y gwn i, nid oes neb wedi talu teyrnged iddyn nhw hyd yn hyn ond mae nhw'n haeddu cael eu cofio yn hanes y drychineb - am wneud eu gwaith yn hollol wirfoddol gyda chydymdeimlad mawr, urddas a charedigrwydd.

Roedden nhw'n eistedd un ochr i'r ystafell gyda Derwyn a minnau yr ochr arall. Ein gwaith oedd ceisio trefnu'r angladd mawr. Dros y tridiau nesaf daeth y teuluoedd yno i s么n am eu dymuniadau ac i gofrestru enw neu enwau'r ymadawedig.

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teulu yn galaru mewn angladd torfol - i 81 o'r rheiny fu farw - ar 28 Hydref 1966

Mae fy nghopi o'r tudalennau gennyf yn awr - rhestr o bob un gafodd ei ladd - enw, cyfeiriad, oedran, eglwys, trefniant (hynny yw, claddu gyda'r lleill neu ar wah芒n, wrth ochr pwy roedd y plant i orwedd, o ble i gasglu'r corff) - llawer ohonyn nhw mewn eglwysi a'r lleill gartref.

Yr eithriad oedd Bethania, capel yr Annibynwyr: cafodd hwnnw ei ddefnyddio fel marwdy y trychineb. Mae'n amlwg i mi bod y rhan fwyaf o'r plant yn perthyn i ysgol Sul - collodd Bethania bob plentyn.

Yr hyn ddaeth yn glir i mi oedd dewrder y rhieni ochr yn ochr a'u poen.

Lle anodd iawn i hers yw mynwent Aberfan gydag un tro arbennig o galed. Rhaid dechrau ar y gwaith gyda fflyd o gerbydau am wyth o'r gloch bore'r angladd er mwyn cael popeth yn ei le cyn i'r teuloedd gyrraedd.

Y bore hwnnw, aeth Derwyn a minnau i ymweld ag un o'r gweinidogion lleol. Ar ein ffordd yn 么l, gan gerdded ar hen domen lo, daethom at y dibyn ac edrych i lawr ar stryd 芒 thai ar un ochr - roedd yna bump hers yno. Aeth Derwyn i un t欧 a minnau i un arall. Cefais groeso da yno - paned ar unwaith a chadair breichiau wrth y t芒n.

Dau air Saesneg yn unig, "How many?" Daeth yr ateb tawel gan y wraig: Dau, brawd a chwaer." Dau allan o dri! "A fy mam hefyd. Hi oedd y cyntaf i'w lladd - byw yn y ffermdy ar ochr y mynydd."

Beth oedd dyn yn medru ei ddweud ar wah芒n i "Mae'n flin gennyf." Bu i hynny fy mhoeni am hanner canrif hyd nes i mi gofio geiriau Eseciel (3.15) yng nghyfeithiad William Morgan, "mi eisteddais lle yr oeddent hwy yn eistedd".

Mewn cyfarfod o'r gweinidogion lleol, cyhoeddodd yr offeiriad Catholig bod Archesgob Caerdydd yn dod i'r angladd. Ymatebodd y ficer oedd y byddai Esgob Lland芒f yn bresennol hefyd. Y cwestiwn wedyn oedd pwy oedd i gynrychioli'r eglwysi rhyddion ac ond un ateb oedd i'r cwestiwn sef gweinidog hynaf y pentref, y Parchedig Stanley Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr, ac yntau wedi colli pob plentyn o'r ysgol sul.

'Urddasol a chynnes'

Cafodd yr angladd mawr ei gynnal ar 28 Hydref, wythnos union wedi'r trychineb. Erbyn tri o'r gloch roedd torf enfawr yn y fynwent a'r teuluoedd yn sefyll o flaen bedd neu beddau eu plant. Cynhaliwyd gwasanaeth byr a syml, yn urddasol a chynnes yr un pryd.

Cafodd dau emyn eu canu: Loving Shepherd of thy sheep, keep thy lambs in safety keep ac un yn y ddwy iaith yr un pryd, sef Iesu, Cyfaill f'enaid cu yn y Gymraeg a Jesus, Lover of my soul yn Saesneg.

Euthum adref ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae effaith y pedwar diwrnod hwnnw gyda fi o hyd. Trachwant dyn achosodd ddioddefaint Aberfan a thrachwant dyn yw achos dioddefaint plant a theuluoedd Aleppo a lleoedd tebyg heddiw.