Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwaith gan Syr Karl Jenkins i gofio trychineb Aberfan
- Awdur, Geraint Thomas
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Ar yr 21ain o Hydref, fe fydd hi union hanner canrif ers trychineb Aberfan.
Cafodd 116 o blant rhwng saith a 10 mlwydd oed, a 28 o oedolion, eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr o ben y mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a nifer o dai yn y pentref bach glofaol ger Merthyr Tudful.
Fe fydd gwaith corawl newydd gan y cyfansoddwr byd enwog Syr Karl Jenkins yn cael ei berfformio am y tro cyntaf nos Sadwrn yng Nghanolfan y Mileniwm mewn cyngerdd i gofio'r trychineb.
S4C sy'n gyfrifol am gomisiynu 'Cantata Memoria' a goleuni yw thema canolog y gwaith.
Sinfonia Cymru fydd yn perfformio'r darn gyda ch么r cymysg o fwy na 150 o gantorion yn canu ochr yn ochr 芒 ch么r plant o 116.
Y Prifardd Mererid Hopwood luniodd y libreto gan gyfuno tair iaith - y Gymraeg, Lladin a'r Saesneg: "Y cam cyntaf, ar un pwysicaf, oedd mynd i Aberfan gyda Karl Jenkins i gwrdd 芒 chynrychiolaeth o'r trigolion oedd yno a chael rhyw fath o awgrym, o synnwyr, o beth oedd gyda nhw mewn golwg."
"Yn y lle cyntaf o'n i yn teimlo'n nerfus tu hwnt. Oedd rhywun yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb, yr awydd cryf i neud fy ngorau glas gyda Karl i greu rhywbeth oedd yn briodol urddasol, mas o barch a chydymdeimlad at y trigolion."
"Nid dogfen ffeithiol yw'r gwaith yma. Rhyw ddarn o farddoniaeth a cherddoriaeth yn dod at ei gilydd i geisio cyfleu sut y'n ni fel cenedl yn ymateb i Aberfan. Y gofid, y galar, yr ofn, yr arswyd, y parch a'r edmygedd ond falle mwy na dim y cydymdeimlad gyda'n cyd Gymry ni."
Nos Sadwrn, bydd rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys y bas-bariton byd-enwog, Bryn Terfel, y delynores Catrin Finch, yr arbenigwr pres David Childs, a'r soprano Elin Manahan Thomas yn perfformio.
Yn ogystal 芒 hynny, fe fydd y noson yn cynnwys darlleniadau o waith ysgrifenedig newydd ynghyd 芒 pherfformiadau cymunedol arbennig gan G么r Meibion Ynysowen a chorau ysgol o Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen ac Ysgol Rhyd y Grug.
Fe fydd y perfformiad yn cael ei ddarlledu nos Sul y 9fed o Hydref am 7.30yh ar S4C.
Y Parchedig Milton Jenkins
Roedd y parchedig Milton Jenkins yn Aberfan ar 21 Hydref 1966.
Roedd gan ei gyfnither a'i g诺r, y gweinidog lleol y Parchedig Kenneth Hayes, ddau o blant yn 9 ac yn 8 oed oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pantglas.
Ar y bore dydd Gwener, arhosodd y plentyn 8 oed gartref ar 么l bod yn s芒l y noson flaenorol, ond roedd yr hynaf, Dyfrig ar goll.
Aeth Mr Jenkins i'r pentref i helpu i chwilio amdano, cyn i gorff y plentyn gael ei ddarganfod o dan y domen lo.