Annog merched i gael yr MMR cyn beichiogi

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog menywod sy'n bwriadu beichiogi i sicrhau eu bod wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR.

Mae'r MMR yn amddiffyn rhag y frech Almaeneg, y dwymyn doben neu glwy'r pennau (mumps) a'r frech goch.

Does dim modd rhoi'r brechlyn i fenywod sy'n feichiog yn barod, felly mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud y dylai merched gael y ddau ddos cyn beichiogi.

Hyd yma, mae menywod beichiog wedi cael cynnig prawf i weld a oes ganddyn nhw imiwnedd i rwbela, neu'r frech Almaeneg.

Os nad oedd ganddyn nhw imiwnedd, roedden nhw'n cael cynnig y brechiad ar 么l cael eu babi.

Ond yn sgil llwyddiant y rhaglen imiwneiddio MMR wrth ddileu rwbela bron yn llwyr, mae'r prawf gwaed yn dod i ben ar 3 Hydref 2016 yng Nghymru.

Fe wnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Mae sgrinio rwbela cyn-enedigol wedi dod i ben yn Lloegr a'r Alban hefyd.

'Lledaenu'n hawdd'

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae rwbela, neu'r frech goch yr Almaen, yn haint firws ac mae'n lledaenu'n hawdd o un person i'r llall.

"Mae fel arfer yn salwch ysgafn a gall rhywun 芒 rwbela fod 芒 brech ac yn teimlo'n anhwylus am tua wythnos.

"Yn sgil llwyddiant y rhaglen imiwneiddio MMR mewn plant oed cyn ysgol, mae rwbela yn brin yng Nghymru a dydyn ni ddim wedi cael unrhyw achosion yn y degawd diwethaf.

"Fodd bynnag, gall dal rwbela yn ystod 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd achosi niwed difrifol i ymennydd, calon, llygaid a chlyw babi. Syndrom rwbela gynhenid yw'r enw ar hyn."

Dywedodd Sharon Hillier, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Am na ellir rhoi'r MMR pan fyddwch yn feichiog rydym yn annog merched sy'n ystyried cael babi i wirio eu bod wedi cael eu dau ddos o'r brechlyn MMR cyn beichiogi.

"Mae'n bwysig iawn bod unrhyw ferch feichiog sy'n datblygu brech neu sy'n dod i gysylltiad 芒 rhywun 芒 brech, yn ffonio ei bydwraig neu ei meddyg teulu i gael cyngor.

"Dylai merched osgoi beichiogi am fis ar 么l cael y brechlyn MMR, felly mae angen dull dibynadwy o atal cenhedlu arnynt."