Amheuon am Pride yn poeni McKellen

Ffynhonnell y llun, Pride Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Syr Ian McKellen yng Nghaerdydd yn perfformio yn y ddrama 'No Man's Land'

Mae'r ansicrwydd yngl欧n 芒 g诺yl Pride Cymru y flwyddyn nesa' yn "destun pryder," yn 么l yr actor Syr Ian McKellen.

Mae 'na amheuaeth y bydd yr 诺yl yn gallu cael ei chynnal mewn cae yng nghanol Caerdydd y flwyddyn nesaf, oherwydd defnydd o'r cae fel ardal cefnogwyr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Fe ddywedodd Mr McKellen, sy'n ymgyrchydd blaenllaw, ei fod yn "gobeithio nad ydi hyn yn adlewyrchu newid agwedd" gan yr awdurdodau.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod y sefyllfa'n "heriol" oherwydd amseru'r digwyddiadau.

Disgrifiad o'r llun, Dathliadau Pride yng Nghaerdydd yn 2015

Mae'r 诺yl balchder LHDT (lesbiaid, hoyw, deurywiol, thrawsryweddol) sy'n cael ei threfnu gan Pride Cymru wedi cael ei chynnal yn y brifddinas ers 1999.

Eleni, roedd 'na ddigwyddiadau yng Nghaeau Cooper ar 么l gorymdaith drwy ganol y ddinas.

Bydd y caeau hynny'n cael eu defnyddio yn ystod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mai, ac mae 'na bryderon y bydden nhw'n dal i gael eu hatgyweirio yn y cyfnod pan fydd Pride yn cael ei gynnal.

Er hynny, mae Cyngor Caerdydd yn mynnu y bydd Pride 2017 yn digwydd yng Nghaeau Cooper.

'Negyddiaeth'

Mynegodd Mr McKellen ei bryderon am y sefyllfa:

"Mae'n destun pryder," meddai. "Dwi'n gobeithio nad ydi hyn yn adlewyrchu newid agwedd ar ran swyddogion etholedig a'r bobl y maen nhw'n eu cyflogi i wasanaethu'r ddinas.

"Mae Pride Cymru'n perthyn i'r brifddinas, yn amlwg. Efallai bod 'na lefydd eraill y gallai'r 诺yl fynd iddyn nhw - ond mi fyddai hynny'n bechod."

Soniodd Mr McKellen hefyd am yr heriau mae rhai unigolion LHDT yn eu hwynebu mewn rhai gwledydd:

"Dwi newydd ddod 'n么l o Rwsia, India a China, ble fues i'n ymweld ag unigolion sy'n cael amser caled gan yr awdurdodau.

"A nawr, wedi dod 'n么l i Brydain a Chymru, dwi'n teimlo mymryn o negyddiaeth...

"Dwi'n gobeithio y bydd 'na newid meddwl... a bydd Pride Cymru'n cael ei gynnal yng nghanol y ddinas, fel y dylai."

'Hyblygrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod nhw wedi cefnogi g诺yl Pride ers iddi ddechrau yn 1999.

"Dyw'r cyngor ddim yn bwriadu symud Pride o Gaeau Cooper ond fe fydd yna rhywfaint o hyblygrwydd gyda dyddiadau'r digwyddiadau yn y dyddiadur flwyddyn nesaf," meddai.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn asesu'r holl bosibiliadau ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'r trefnwyr i gefnogi'r digwyddiad."