Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Apelio yn erbyn gwrthod cais am 366 o dai yng Ngwynedd
Mae datblygwyr wedi apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniat芒d i adeiladu 366 o dai ym Mangor.
Roedd cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod y cais oherwydd pryderon yngl欧n 芒'r effaith ar yr iaith Gymraeg.
Cafodd yr effaith ar draffig ac ysgolion lleol hefyd eu crybwyll fel ffactorau wrth wrthod caniat芒d i'r datblygiad gan gwmni Morbaine ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd.
Mae disgwyl i'r arolygwyr cynllunio ystyried yr ap锚l cyn gwneud argymhelliad i Lywodraeth Cymru.
Hwn oedd y cais cynllunio gyda'r nifer fwyaf o dai i gael ei ystyried gan Gyngor Gwynedd, ond fe gafodd caniat芒d ei wrthod ar sail rheolau newydd yn ymwneud 芒 chynllunio a'r Gymraeg.
Roedd trigolion lleol hefyd wedi trefnu deiseb yn gwrthwynebu datblygu'r safle 35 acer ar sail eu pryderon ynghylch gorddatblygu a diffyg isadeiledd.