Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dug Caeredin wedi marw yn 99 oed
Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi bod y Tywysog Philip, Dug Caeredin, wedi marw yn 99 oed.
Roedd wedi bod yn briod 芒'r Frenhines ers 73 o flynyddoedd, ac wedi cyflawni dyletswyddau brenhinol ochr yn ochr 芒 hi gydol ei theyrnasiad.
Fe ymddeolodd o ddyletswyddau cyhoeddus yn swyddogol yn haf 2017.
Dywedodd Palas Buckingham mewn datganiad: "Gyda thristwch mawr mae Ei Mawrhydi y Frenhines yn cyhoeddi marwolaeth ei hannwyl 诺r Y Tywysog Philip, Dug Caeredin.
"Bu farw yn dawel y bore 'ma yng Nghastell Windsor.
"Bydd cyhoeddiadau pellach maes o law.
"Mae'r teulu brenhinol yn ymuno gyda phobl ar draws y byd i alaru ei golli."
Fe anwyd Tywysog Philip o Groeg a Denmarc ar Ynys Corfu ym mis Mehefin 1921.
Roedd yn Dywysog Groeg ond cafodd ei dad, y Tywysog Andrew, ei alltudio o'r wlad yn 1922.
Pan ddaeth y Tywysog yn ddinesydd Prydeinig, fe fathodd yr enw Philip Mountbatten.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe ddatblygodd ei berthynas 芒'r Dywysoges Elizabeth, merch hynaf Brenin George VI, ac fe briododd y ddau yn Abaty Westminster yn 1947.
Ar achlysur ei briodas fe gafodd r么l benodol o ran ei ddyletswyddau yng Nghymru.
Yn ogystal 芒'r teitl Dug Caeredin fe dderbyniodd y teitl Iarll Meirionnydd.
Marwolaeth y Brenin
Yn y blynyddoedd nesaf ganwyd dau o blant, Charles ac Anne, cyn iddi ddod i'r amlwg bod y Brenin George VI yn wael gyda chanser yr ysgyfaint.
Ym mis Ionawr 1952, cychwynnodd y Dug a'i wraig ar daith dramor, ac ar lannau afon Segana, 8,000 o filltiroedd o Lundain yn Kenya, yng ngwesty'r Treetops ym mis Chwefror y torrwyd y newyddion am farwolaeth y Brenin yn 52 oed.
Nid yn unig oedd ei wraig yn Frenhines Ynysoedd Prydain, roedd hi hefyd yn Frenhines ar ran helaeth o fap y byd.
Dyma gychwyn ar yr ail oes Elizabethaidd, ac fe ddychwelodd y ddau i Brydain yn syth a derbyn eu cyfrifoldebau.
Yna cafodd Y Frenhines a'r Dug ddau fab arall, Andrew ac Edward.
Er ei fod wastad wedi cerdded ychydig gamau tu 么l i'r Frenhines, yn unol 芒 thraddodiad, doedd y Dug ddim yn un i aros yng nghysgod ei wraig, ac roedd yn benderfynol o gyfrannu at fywyd cyhoeddus yn ei ffordd ei hun.
Fe sylweddolodd yn fuan iawn bod angen i'r sefydliad Brenhinol foderneiddio er mwyn goroesi.
Daeth hynny i'r amlwg ar 么l trychineb Aberfan yn 1966, wedi i domen o wastraff y gwaith glo gwympo ar yr ysgol leol a lladd 116 o blant a 28 o oedolion.
Aeth y Dug yn syth i Aberfan ddiwrnod ar 么l y trychineb i ymweld 芒 phobl yr ardal a theuluoedd y plant a'r bobl fu farw, cyn mynd yn 么l yno eto rhyw wythnos yn ddiweddarach gyda'r Frenhines.
Dywedodd rhai oedd yno fod y Dug wedi crwydro yn ystod yr ymweliad swyddogol er mwyn sgwrsio a chydymdeimlo 芒 theuluoedd dros baned.
Dyma ochr i'r Teulu Brenhinol nad oedd unrhyw un wedi ei weld o'r blaen.
Fe chwaraeodd ran flaenllaw yn nathliadau arwisgo ei fab Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969.
Mae'n debyg mai'r Dug oedd yn gyfrifol am annog Charles i dreulio cyfnod yn Aberystwyth yn dysgu Cymraeg cyn yr arwisgiad.
Dywedodd y Dug unwaith mai yn ei r么l fel Canghellor Prifysgol Cymru, rhwng 1948 a 1976, y daeth yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg a'i diwylliant i bobl Cymru.
Gwobr y Dug
Bydd y Dug yn cael ei gofio hefyd am ei waith yn sefydlu Gwobr Dug Caeredin.
Dywedodd Ian Gwilym, sy'n gweithio gyda'r wobr yng Nghymru: "I lot o bobl ifanc, mae'n newid y ffordd maen nhw'n meddwl am fywyd.
"Hefyd, mae'n agor y drws efallai i yrfa newydd fel rhan o'r rhaglen, lle maen nhw'n dysgu sgiliau newydd neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon gwahanol."
Ym mis Mai 2017 fe gyhoeddodd y Dug y byddai'n ymddeol o'i ddyletswyddau swyddogol.
Er i'w ymweliadau swyddogol ddod i ben dywedodd Palas Buckingham y byddai'n parhau i fynychu rhai digwyddiadau yng nghwmni'r Frenhines.
Ddechrau 2019, bu Dug Caeredin mewn gwrthdrawiad 芒 char arall ger yst芒d Sandringham yn swydd Norfolk.
Er na chafodd ei anafu'n ddifrifol, fe ildiodd ei drwydded yrru yn wirfoddol ar 么l y digwyddiad.
Ym mlwyddyn y pandemig, treuliodd y Dug y rhan fwyaf o'i amser yn Sandringham.
Aeth i briodas ei wyres, y Dywysoges Beatrice, yng Nghapel Brenhinol yr Holl Saint yng Nghastell Windsor ym mis Gorffennaf, cyn ymuno 芒'r Frenhines yn Balmoral yn ystod yr haf a dychwelyd i'r yst芒d yn Norfolk.
Cafodd llun arbennig ei ryddhau ym mis Tachwedd 2020 i ddathlu pen-blwydd priodas y Frenhines a'r Dug - a hynny 73 o flynyddoedd ar 么l eu priodas yn Abaty Westminster yn 1947.
Ac er mwyn cadw at ganllawiau'r pandemig, treuliodd y Frenhines a'r Dug y Nadolig yng Nghastell Windsor yn hytrach na Sandringham, a hynny heb weddill y teulu.
Ers 1952 roedd wedi cwblhau 22,219 o ddyletswyddau swyddogol ar ei ben ei hun, gan roi 5,496 o areithiau.