成人快手

Gwleidyddion Cymru'n ffarwelio 芒 David Cameron

  • Cyhoeddwyd
cameronFfynhonnell y llun, HOC

Wrth i David Cameron annerch T欧'r Cyffredin fel Prif Weinidog am y tro olaf, mae nifer o wleidyddion Cymreig wedi ymateb i'w ymadawiad o'r swydd.

Bu Mr Cameron yn ateb cwestiynau'r Prif Weinidog yn San Steffan cyn ildio'r awenau i Theresa May.

Bu Aelodau Seneddol yn cymeradwyo wrth iddo adael y siambr.

Ffynhonnell y llun, EPA

Mewn ymateb ar Twitter, dywedodd David Hanson, Aelod Seneddol Llafur Delyn: "Hoffi geiriau olaf David Cameron fel Prif Weinidog yn y siambr 'I was the future once' a gadael wrth i aelodau guro dwylo."

Wrth asesu ei gyfraniad fel Prif Weinidog dywedodd yr Arglwydd Nick Bourne o Aberystwyth, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth Cymru Fyw: "Roedd David Cameron fel arweinydd yn drawsnewidiol. Roedd e'n deall datganoli.

"Pan roeddwn i yn arweinydd roedd e'n gefnogol bob amser yngl欧n 芒 chyflwyno polis茂au a oedd yn briodol i Gymru, ac roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn gwneud yr hyn oedd yn iawn i Gymru."

Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS, ar Twitter: "Diwrnod olaf y Prif Weinidog. Rwy'n talu teyrnged iddo am drawsnewid y Blaid Geidwadol ac am roi refferendwm i ni."

Teyrnged Plaid Cymru

Mae arweinydd Plaid Cymru yn y San Steffan, Hywel Williams wedi llongyfarch Mr Cameron: "Rwy'n dymuno'n dda i David Cameron a'i deulu ac rwy'n ei longyfarch ar ei gyfnod fel Prif Weinidog.

"Rydym wedi angyhytuno ar lawer yn ystod y chwe mlynedd diwethaf, ond fe all fod yn falch o'i waith ym maes datblygu rhyngwladol a'i ymdrechion i gyfreithloni priodas o'r un rhyw.

"Rwy'n ei longyfarch ac yn diolch iddo ac yn dymuno'n dda iddo ar ran Aelodau Seneddol Plaid Cymru."

Swyddfa newydd David Cameron

Felly ble mae cyn Brif Weinidog yn mynd ar 么l gadael Downing Street?

Mae David Cameron wedi addo y bydd yn aelod ffyddlon ar y meinciau cefn.

Mae hynny yn golygu cyfnewid swyddfa foethus yn 10 Downing Street, am un llawer mwy syml yn Nh欧'r Cyffredin.

Ond mae swyddfeydd yn bethau prin yn San Steffan, ac fel g锚m o 'musical chairs' roedd rhaid i rywun symud er mwyn gwneud lle iddo.

Ffynhonnell y llun, Itv

A phwy sy'n gorfod aberthu eu swyddfa, ond pedwar aelod Ceidwadol o Gymru, Chris Davies, James Davies, Byron Davies a Craig Williams.

Ac mae yna gryn anniddigrwydd am hyn. Yn 么l un aelod Ceidwadol fe gafodd y pedwar "eu taflu allan heb lawer iawn o rybudd".

Fel y dywedodd un o'r aelodau "da ni nawr yn byw allan o focs cardbord" tra bod y blaid yn ceisio canfod swyddfa arall iddyn nhw.

Mae'n debyg na fydd Mr Cameron yn gorfod rhannu'r swyddfa gyda thri arall.